Adeiladu Tai yng Ngorllewin De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 2:11, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Rhywbeth sy'n cynhyrfu llawer o bobl leol yw'r ffaith nad oes unrhyw fandad yn y system gynllunio ar gyfer cyfleusterau ar gyfer llawer o'r ystadau newydd hynny. Felly, weithiau mae gennych ystadau tai sy'n cael eu cadw'n dda ac mae ganddynt ddarpariaeth yn hynny o beth, ond nid oes ganddynt barciau, nid oes ganddynt unrhyw feddygfeydd, nid oes ganddynt y pethau a fyddai'n creu cymuned. Mae'r system, felly, yn gelyniaethu llawer o bobl na fyddent, efallai, yn gwrthwynebu'r tai newydd hyn yn eu cymuned leol, ond byddent yn croesawu rhywfaint o fuddsoddiad yn y seilwaith sydd ynghlwm wrth hynny. Felly, beth arall y gallwch ei wneud fel Llywodraeth i edrych ar sut y gallwn adeiladu'r cyfleusterau hyn i mewn yn y systemau cynllunio lleol, fel y gallwn fod yn sicr, pan fyddwn yn creu cartrefi, ein bod yn creu cymunedau hefyd?