Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 3 Hydref 2018.
Credaf fod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn. Bûm yn siarad â'r prif swyddog cynllunio y bore yma, er enghraifft, ynglŷn â byrddau iechyd yn rhoi tystiolaeth pan geir datblygiadau cynllunio newydd. Nid ydynt yn ymgyngoreion gorfodol ar hyn o bryd, ac rwy'n meddwl tybed a ddylent fod, oherwydd yn amlwg, mae darpariaeth gofal sylfaenol yn bwysig iawn. Felly, mae'n rhywbeth rydym yn ei ystyried, ac yn amlwg, byddaf yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.