Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 3 Hydref 2018.
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, sefydlwyd bellach drwy gamau cyfreithiol na chafwyd unrhyw asesiad o'r effaith amgylcheddol ar gyfer dympio mwd o adweithydd niwclear Hinkley Point C ar safle Cardiff Grounds. Ni chafwyd unrhyw ystyriaeth o'r effaith ar yr amgylchedd morol neu iechyd y cyhoedd. Sefydlwyd hefyd drwy ein camau cyfreithiol mai chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet, sy'n gyfrifol yn y pen draw am gynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol. Felly, a wnewch chi gymryd camau yn awr a sicrhau y cynhelir asesiad o'r effaith amgylcheddol, neu a fyddwch yn parhau i weithredu'n anghyfreithlon?