Gweithdrefnau Trwyddedu Morol

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:07, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i amlinellu proses yr asesiad o'r effaith amgylcheddol unwaith eto. Pwynt allweddol i'w nodi yw nad yw diffyg asesiad o'r effaith amgylcheddol yn golygu na wnaed asesiad amgylcheddol llawn a thrylwyr. Cynhaliwyd asesiad radiolegol, fe'i cefnogwyd gan arbenigwyr, yn ogystal â'r asesiadau amgylcheddol ac iechyd dynol ehangach sydd eu hangen ar gyfer gwneud penderfyniad ynghylch trwydded forol. Cyflawnwyd asesiad o'r effaith amgylcheddol ar brosiect Hinkley Point C yn gyffredinol; fe'i cyflwynwyd yn rhan o'r wybodaeth ategol a ddarparwyd gyda'r cais am y drwydded forol, ac fel y cyfryw, fe'i hystyriwyd yn y broses benderfynu.

Y gwahaniaeth rhwng prosiectau gydag asesiad o'r effaith amgylcheddol a phrosiectau heb asesiad o'r effaith amgylcheddol yw'r cyfnod o amser ar gyfer ymgynghori â'r cyhoedd: 28 diwrnod heb asesiad o'r effaith amgylcheddol, ac mae'n cynyddu i 42 diwrnod ar gyfer ceisiadau gydag asesiadau o'r effaith amgylcheddol.