Gweithdrefnau Trwyddedu Morol

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:08, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, unwaith eto, mae'r Pwyllgor Deisebau wedi cael llawer o dystiolaeth ar hyn ac wedi rhoi ystyriaeth fanwl i'r ddeiseb sy'n galw am atal trwydded forol 1245ML. Mae cymaint o bobl wedi gwrthwynebu'r drwydded hon, gan gynnwys y pwyllgor ei hun. A hoffwn ddiolch i chi ar goedd, Neil, am fod mor benderfynol yn sefyll dros y bobl rydych yn credu y bydd hyn yn effeithio arnynt. Ac eto, nid yw'r drwydded hon wedi'i hatal.

Rhywfaint o'r dystiolaeth a gawsom: nid yw peth o'r gwaith palu, rhai o'r canfyddiadau ar y dyfnderoedd priodol, am rai o'r halogion wedi'i wneud ers 2009. Mae hi bellach yn 2018. Nawr, gyda hynny mewn cof, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad ynglŷn â pham eich bod chi a'ch Llywodraeth yn mynd yn groes i gymaint o wrthwynebiad a pha gamau y byddwch yn eu cymryd i wrando ar y bobl yr effeithir arnynt fwyaf? Waeth i chi heb ag ysgwyd eich pen. Eisteddais yn y cyfarfodydd hynny, Ysgrifennydd y Cabinet—