‘Brexit a’n Tir’

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:13, 3 Hydref 2018

Diolch yn fawr. Dyna roeddwn i'n ei amau: hynny yw, dim astudiaeth a dim bwriad i wneud hynny tan i ganlyniadau'r ymgynghoriad gael eu casglu. Rŵan, mae'n amlwg bod tipyn o amser swyddogion ac arian y Llywodraeth wedi cael ei fuddsoddi'n barod i ddatblygu'r cynigion—y rhai sydd yn y ddogfen 'Brexit a'n tir'. Felly, onid ydy'r broses yma, proses y Llywodraeth o ddatblygu polisi, yn gwbl ddiffygiol? Oherwydd y peryg ydy y gwnewch chi gyrraedd y cam nesaf ar ôl ichi gwblhau'r ymgynghoriad a darganfod bod y cynigion yn niweidio'r Gymraeg a meysydd eraill, hefyd, fel yr economi wledig, ac felly mi fydd yn rhaid i chi eu gollwng nhw, a byddwch chi wedyn wedi gwastraffu amser pawb ac adnoddau'r Llywodraeth ac wedi codi dychryn dianghenraid ymhlith y gymuned yng nghefn gwlad.