Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 3 Hydref 2018.
Na, dim o gwbl, oherwydd fel y dywedais mewn ateb cynharach—i Llyr, rwy'n credu—nid ydym wedi cynnal yr asesiadau hynny a'r gwaith modelu hwnnw gan ein bod yn ymgynghori ar hyn o bryd. Ond dywedais yn fy sylwadau agoriadol i chi ein bod wedi cynnwys y Gymraeg yn benodol yn y ddogfen honno, a chredaf hefyd fod gan 'Brexit a'n tir' ffocws cymunedol a diwylliannol cryf, ac wrth gwrs, mae'r Gymraeg yn rhan annatod o hynny. Y sector amaethyddol, yn ôl pob tebyg, yw'r sector sy'n defnyddio fwyaf ar y Gymraeg yng Nghymru, ac yn sicr, rwy'n awyddus i ddiogelu hynny. Rydym wedi ymrwymo, fel y soniais, i gadw ffermwyr ar y tir ac i weithio gyda hwy i sicrhau dyfodol ffyniannus, ac yn fy marn i, bydd y cynnig hwnnw'n sicrhau bod gennym ddyfodol i'r Gymraeg, drwy greu sefydlogrwydd a hyfywedd hirdymor i'n ffermwyr.