Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 3 Hydref 2018.
Rwy'n croesawu eich ymrwymiad i hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy'n dal i gael llawer o lythyrau ar y pwnc hwn, fel pobl eraill rwy'n siŵr, gan unigolion yn mynegi eu pryderon, ac rwy'n rhannu'r pryderon hynny. Fe'ch cofiaf yn dweud eich bod yn ystyried a fyddech yn cyflwyno teledu cylch cyfyng gorfodol ym mhob lladd-dy yng Nghymru ai peidio. Rwy'n sylweddoli, fel y dywedasoch, fod hynny eisoes ar waith yn y rhai mwy o faint, ond rwy'n awyddus i wybod a ydych wedi gwneud penderfyniad ynglŷn ag a fyddwch yn gwneud hyn yn orfodol yng Nghymru, i gyd-fynd â'r newidiadau diweddar sydd wedi digwydd yn Lloegr.