1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 3 Hydref 2018.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am osod teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai? OAQ52679
Mae gan bob lladd-dy mawr yng Nghymru system deledu cylch cyfyng. Gellir cael mynediad at y lluniau os oes amheuaeth nad yw safonau lles yn cael eu cyrraedd. Bydd buddsoddiadau i ddiogelu lles anifeiliaid, gan gynnwys systemau teledu cylch cyfyng, yn cael eu blaenoriaethu mewn cynllun grant ar gyfer lladd-dai bach a chanolig, a agorwyd ar gyfer datganiadau o ddiddordeb ar 30 Medi.
Rwy'n croesawu eich ymrwymiad i hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy'n dal i gael llawer o lythyrau ar y pwnc hwn, fel pobl eraill rwy'n siŵr, gan unigolion yn mynegi eu pryderon, ac rwy'n rhannu'r pryderon hynny. Fe'ch cofiaf yn dweud eich bod yn ystyried a fyddech yn cyflwyno teledu cylch cyfyng gorfodol ym mhob lladd-dy yng Nghymru ai peidio. Rwy'n sylweddoli, fel y dywedasoch, fod hynny eisoes ar waith yn y rhai mwy o faint, ond rwy'n awyddus i wybod a ydych wedi gwneud penderfyniad ynglŷn ag a fyddwch yn gwneud hyn yn orfodol yng Nghymru, i gyd-fynd â'r newidiadau diweddar sydd wedi digwydd yn Lloegr.
Diolch. Rydych yn llygad eich lle, yn y lle cyntaf, rwy'n cefnogi dull gwirfoddol ac rwy'n gwneud hyn yn ddichonadwy drwy'r cymorth grant a grybwyllais yn awr, oherwydd dywedwyd wrthyf gan rai o'r lladd-dai llai o faint mai un o'r rhwystrau mewn perthynas â chyflwyno teledu cylch cyfyng oedd cyllid, felly mae hyn yn cael gwared â llawer o'r pryderon hynny ynghylch cyllid. Credaf fod dull gwirfoddol yn fwy tebygol o lwyddo i gyrraedd y nod o sicrhau defnydd effeithiol o deledu cylch cyfyng gan y credaf y bydd y lladd-dai eu hunain wedyn yn gwneud penderfyniad cadarnhaol. Rwyf wedi cael trafodaethau diddorol iawn gyda pherchnogion rhai o'n lladd-dai llai o faint. Ymwelais ag un gyda'r Llywydd yn ei hetholaeth yn Nhregaron, a chefais drafodaethau cadarn a diddorol iawn. Felly, i ateb y cwestiwn ynglŷn ag a wyf wedi cau'r drws ar wneud teledu cylch cyfyng yn orfodol yn y tymor hwy, nac ydw. Credaf y bydd y niferoedd sy'n manteisio ar y cyllid rydym newydd ei gyhoeddi yn dylanwadu ar fy mhenderfyniad ynglŷn ag a fyddaf yn gwneud hynny.
Wrth gwrs, mae hwn wedi bod yn bwnc llosg yn y Pwyllgor Deisebau, lle profwyd bod ymateb aruthrol i'w gael ledled Cymru o blaid gosod teledu cylch cyfyng. Er fy mod yn derbyn bod cynnydd yn cael ei wneud yn hyn o beth, bydd teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yn bendant yn sicrhau y datgelir ac yr eir i'r afael â chamdriniaeth. Mae hwn yn gam pwysig o ran sicrhau bod gennym lefelau diogelwch uchel iawn mewn perthynas â lles anifeiliaid yng Nghymru ac y gallwn fod yn esiampl i eraill. Rydych wedi crybwyll y cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd gwerth £1.1 miliwn, sef pecyn cymorth grant ar gyfer lladd-dai bach a chanolig yng Nghymru, ond pa brosesau rydych am eu rhoi ar waith i sicrhau bod y rheini sy'n derbyn y cymorth grant yn defnyddio'r arian hwnnw ar gyfer gosod teledu cylch cyfyng, a beth rydych yn mynd i'w wneud am y rhai sydd ond yn gwneud sioe fawr o'r canllawiau a'r cymorth ar gyfer hyn, o ran y lladd-dai llai o faint sy'n gwrthwynebu ei osod? Beth sydd gan bobl i'w guddio?
Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig gwybod bod nifer o reolaethau eisoes ar waith mewn lladd-dai. Mae milfeddygon swyddogol yn bresennol ym mhob lladd-dy pan fydd anifeiliaid yn cael eu lladd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheoliadau. Mewn ymateb i'ch cwestiwn ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod y cyllid yn cael ei ddefnyddio at y diben y gwnaed cais amdano, yn amlwg, caiff hyn ei fonitro yn agos iawn, ond rydym hefyd yn gweithio gyda'r lladd-dai bach a chanolig hyn yn y lle cyntaf i'w cynorthwyo i wneud y cais ac i sicrhau wedyn, fel y dywedwch, fod yr arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio at y diben cywir. Rydym wedi darparu canllawiau helaeth, er enghraifft. Ychydig iawn o ladd-dai sydd heb deledu cylch cyfyng bellach. Felly, mae modd gweithio gyda hwy yn agosach o lawer na phe bai nifer helaeth ohonynt.