Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 3 Hydref 2018.
I bobl sy'n byw gyda nam ar y golwg, gall effeithio ar bob agwedd ar fywyd—iechyd corfforol a meddyliol, y gallu i fyw'n annibynnol, i ddod o hyd i swydd neu i gadw swydd, eu teulu a'u bywyd cymdeithasol. Mae mynediad amserol at gymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol yn hanfodol i helpu i liniaru effaith nam ar y golwg. Mae adsefydlu yn wasanaeth arbenigol sy'n helpu rhywun sydd â nam ar y golwg i addasu i'r byd o'u hamgylch. Mae'r gwasanaeth yn cynorthwyo pobl i ail-ddysgu sgiliau sydd eu hangen arnynt i fyw bywyd annibynnol. Gallai gynnwys cymorth emosiynol, help gyda symudedd, cymhorthion ac addasiadau, neu help gyda gweithgarwch bywyd bob dydd megis golchi dillad, coginio a glanhau.
Nawr, bob blwyddyn yng Nghymru bydd hanner y bobl dros 80 oed yn cael codwm yn eu cartref. Priodolwyd bron i hanner yr holl godymau y bydd pobl ddall a rhannol ddall yn eu cael i'r nam ar eu golwg. Yn ogystal, amcangyfrifwyd bod codymau'n costio £67 miliwn y flwyddyn yn uniongyrchol i'r GIG. Amcangyfrifir bod cost codymau yng Nghymru sy'n gysylltiedig â'r golwg yn unig yn £25 miliwn bob blwyddyn. Mae'n gwbl amlwg yn fy marn i y dylai adsefydlu gael ei gynnig i'r holl bobl ddall a rhannol ddall. Amcangyfrifir bod gwerth economaidd adsefydlu'n ymwneud â'r golwg yn £4,487 am bob claf a atgyfeirir.
Fodd bynnag, mae'n annerbyniol ein bod yn rhy aml yn gweld loteri cod post yng Nghymru ar gyfer mynediad at ofal adsefydlu. Mewn rhai rhannau o'r wlad, mae rhai pobl yn gorfod aros dros 12 mis i weld swyddog adsefydlu arbenigol, a gallai cyflwr eu golwg ddirywio yn ystod yr amser hwnnw ac mae perygl y gallent gael eu hynysu'n gyflym. Bydd 43 y cant o bobl sy'n colli eu golwg yn dioddef iselder sylweddol a gwanychol. Gwaethygir y broblem ymhellach gan y ffaith nad oes digon o bobl yn cael eu hyfforddi i gymryd lle swyddogion adsefydlu sy'n ymddeol. Mae elusennau yn y sector colli golwg yn pryderu fwyfwy ynghylch y ddarpariaeth adsefydlu ar gyfer pobl â nam ar eu golwg. Mewn rhai mannau, mae amseroedd aros yn annerbyniol o hir, ac mewn eraill mae pobl yn cael eu sgrinio allan o asesiadau adsefydlu'n llwyr neu'n cael eu hasesu gan staff heb gymwysterau. Mae angen i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ddatblygu llwybrau atgyfeirio clir i adsefydlu a gwasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar lle nad yw hyn eisoes yn digwydd. Mae'n annerbyniol nad yw'r proffesiwn hwn yn cael ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol. Mae angen inni sefydlu cynlluniau ar gyfer datblygu'r gweithlu yn y dyfodol ac annog pobl i'r rôl. Yn y pen draw, mae angen inni wneud yn siŵr fod pobl yn cael mynediad amserol at wasanaethau adsefydlu ni waeth ble maent yn byw, i'w galluogi i fyw bywyd mor llawn ac annibynnol â phosibl.
I droi at y gallu i gael gafael ar wybodaeth a chyngor, mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n colli eu golwg hefyd yn colli eu gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng print arferol. Mae hyn yn hanfodol i unrhyw un allu cynnal eu lles a chael llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau.
Yn 2013, lansiwyd y safonau gofal iechyd hygyrch i bobl â nam ar y synhwyrau yng Nghymru. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i nodi sut y bydd gwasanaethau GIG yn cael eu darparu'n hygyrch i bobl sy'n fyddar, yn drwm eu clyw, yn ddall, yn rhannol ddall neu sydd â nam ar y golwg a'r clyw. Gallai gwybodaeth hygyrch olygu cael gwybodaeth mewn Braille, mewn print bras, mewn fformat sain neu e-bost—beth bynnag sy'n iawn ar gyfer y claf hwnnw i'w cynorthwyo i gymryd rhan mor llawn â phosibl yn eu gofal iechyd. Ond bellach aeth pum mlynedd heibio ers i ni lansio'r safonau hynny. Y gwir plaen yw mai effaith gyfyngedig a gafodd hyn, ac mae pobl yn dal i wynebu rhwystrau mawr i ofal iechyd. Mae cleifion yn dal i adael yr ysbyty bob dydd yn ansicr ynglŷn â faint o feddyginiaeth y maent i fod i'w gymryd, neu'n ansicr ynglŷn â pha gyngor a roddwyd iddynt. Do, gwelwyd cynnydd araf mewn rhai meysydd, ond yn gyffredinol, mae elusennau megis RNIB ac Action on Hearing Loss yn dweud wrthym na fu llawer o newid amlwg i bobl â nam ar y synhwyrau yng Nghymru. At hynny, roeddem yn falch, ac yn briodol felly, mai Cymru oedd y genedl gyntaf yn y DU i weithredu'r safonau. Felly pam nad ydym yn ddim gwell nag ar draws y ffin yn Lloegr mewn llawer o ffyrdd o hyd? Yn sicr, mae'n hen bryd i'r safonau, fel safonau'r Gymraeg a phethau eraill, ddod yn orfodol. Pam nad yw Llywodraeth Cymru yn pennu targedau blynyddol gan bob bwrdd iechyd i fonitro'r gwelliannau? Mae hwn yn fater sy'n ymwneud â diogelwch cleifion. Mae angen i gleifion allu gymryd rhan yn eu hymgyngoriadau â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'u deall yn iawn.
Mae'r amgylchedd adeiledig yn faes arall lle gallwn leihau'r rhwystrau i bobl ddall a rhannol ddall. Mae rhaglen Visibly Better RNIB Cymru yn cynorthwyo sefydliadau i ddatblygu amgylcheddau y bydd rhagor o bobl yn teimlo'n hyderus i fynd i mewn iddynt ac o'u cwmpas. Mae'r egwyddorion dylunio yn helpu i atal codymau a meithrin hyder drwy sefydlu lefelau goleuo priodol, lliw a chyferbyniad tonyddol, a gosodiadau a ffitiadau sy'n helpu pobl i ddod o hyd i'w ffordd o gwmpas. Defnyddiwyd dylunio Visibly Better mewn adran radioleg ar ei newydd wedd yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Bellach mae'r holl ardal yn llawer haws i gleifion allu dod o hyd i'w ffordd o gwmpas yn hyderus ac yn ddiogel. Mae angen inni ddiogelu ein hamgylcheddau ar gyfer ein poblogaeth sy'n heneiddio, ac mae angen cymhwyso ymrwymiad i'r egwyddorion hyn ar gyfer mannau cyhoeddus eraill yn y dyfodol.
Os caf gyffwrdd ar ofod a rennir, ar y wyneb mae'r cysyniad o ofod a rennir yn un sy'n apelio'n fawr. Caiff gofodau eu dadreoleiddio i sicrhau nad oes gan unrhyw un ymdeimlad o flaenoriaeth. Rhennir y gofod â cherbydau, cerddwyr a beicwyr. Mae hyn i gyd yn swnio'n dda iawn, ond mae'n dibynnu ar y gallu i wneud cyswllt llygad ac nid yw hynny'n hawdd os na allwch weld. Mae hynny'n golygu bod y gofod hwnnw'n anniogel ac angen ei osgoi. Gall y sefyllfa hon waethygu drwy gael gwared ar groesfannau a'r gwahaniaeth rhwng palmentydd a ffyrdd. Cyflwynwyd Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 gyda'r nod sylfaenol o hyrwyddo budd cynyddol cerdded a beicio. Fodd bynnag, mae perygl na fydd pobl ddall a rhannol ddall yn teimlo'r buddion hyn pan fydd cynllunio gofod a rennir yn wael yn eu rhoi mewn perygl o wrthdrawiad â beicwyr, felly gall rhywbeth sy'n dechrau fel syniad da arwain at ganlyniad gwahanol yn y pen draw. Dangosodd arolwg a gynhaliwyd gan y gymdeithas cŵn tywys fod 97 y cant o'r bobl sydd â nam ar eu golwg wedi mynd benben â blerwch stryd fel byrddau A.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn fynd i'r afael â mater trafnidiaeth. Mae llawer o bobl ddall a rhannol ddall yn ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer y rhan fwyaf o'u teithiau bob dydd. Mewn ardaloedd gwledig lle gall pobl deimlo'n fwy ynysig a lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn bellach i ffwrdd, mae pobl ddall a rhannol ddall yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus sy'n aml yn hen, ac arosfannau bysiau heb wybodaeth. Mae hynny'n effeithio ar bobl sy'n gweld yn iawn hefyd, felly mae pawb ohonom yn deall y problemau hynny.
A gaf fi orffen drwy ddymuno pen blwydd hapus iawn eleni i'r RNIB wrth iddynt ddathlu 150 o flynyddoedd o hyrwyddo hawliau pobl ddall a rhannol ddall? Mae angen inni yng Nghymru ddod o hyd i atebion newydd a ffyrdd newydd o adeiladu gwlad lle mae cyfranogiad cyfartal pobl ddall a rhannol ddall yn norm. Rhai yn unig o'r rhwystrau y mae pobl sy'n colli eu golwg yn eu hwynebu bob dydd yw'r rhain, a gwn y gallwn fynd i'r afael â hwy. Gallwn wneud pethau'n wahanol, a gallwn weld pethau'n wahanol. Diolch yn fawr.