Part of the debate – Senedd Cymru am 5:52 pm ar 3 Hydref 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Dai Lloyd yn ystod y ddadl. Cynhyrchwyd y fideo a welsoch yn awr gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion, ac mae'n rhan o'r ymgyrch 'How I See' ac yn tynnu sylw at nifer o faterion yr hoffwn eu cyflwyno i chi heddiw.
Yn aml dywedir mai'r golwg yw'r synnwyr y byddai pobl fwyaf o ofn ei golli, ac mae'n gallu bod yn anodd. O anhawster i gael triniaeth a gwasanaethau i ddiffyg cymorth emosiynol ac ymarferol, mae pobl ddall a rhannol ddall fel ei gilydd yn wynebu eu set eu hunain o heriau bob dydd.
Mae teimladau o unigrwydd yn annerbyniol o uchel, ac un o bob pedwar yn unig o bobl ddall neu rannol ddall o oedran gweithio sydd mewn gwaith. A gwyddom y bydd y niferoedd yn cynyddu'n ddramatig. Mae tua 107,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda nam ar eu golwg a disgwylir i hyn ddyblu dros yr 20 mlynedd nesaf. Golyga hynny y bydd tua 218,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda nam ar eu golwg erbyn 2050.
Mae nam ar y golwg yn effeithio ar bobl o bob oed, ond wrth inni fynd yn hŷn, rydym yn fwyfwy tebygol o gael profiad ohono. Mae pobl sydd â nam ar eu golwg yn fwy tebygol o gael codwm ac yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi. Maent yn fwy tebygol o ddioddef iselder, o fod yn ddi-waith ac o gael problemau gyda bywyd bob dydd, megis mynd allan, coginio a darllen. Heddiw, rwyf am gyffwrdd â rhai o'r rhwystrau sy'n wynebu pobl ddall a rhannol ddall a'n herio ni i weld a gwneud pethau'n wahanol.
Gan fod y rhan fwyaf o gyflyrau'r golwg yn ddirywiol, ond fod modd eu trin hefyd, mae'n hanfodol fod gan bobl fynediad amserol at ofal llygaid a thriniaeth barhaus. Offthalmoleg yw un o'r gwasanaethau allanol mewn ysbytai gyda'r nifer uchaf o gleifion, ac mae gan lawer o gleifion llygaid angen parhaus am ofal dilynol amserol i gadw eu golwg. Fel aelod o'r grŵp trawsbleidiol ar olwg, rwyf wedi clywed gan gleifion ar restrau aros clinigau llygaid ysbytai fod eu hapwyntiadau'n cael eu canslo heb fawr o rybudd o gwbl. Gwn fod gennym aelodau eraill o'r grŵp yma heddiw hefyd. Gallai oedi cyn cael triniaeth roi pobl mewn perygl o golli eu golwg am byth. Wedi dweud hynny, hoffwn groesawu cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru ynglŷn â buddsoddiad i gefnogi gweithrediad y mesurau offthalmig newydd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau—y genedl gyntaf yn y DU i gael mesurau penodol ar gyfer gofal llygaid. Dyma rywbeth rwyf wedi bod yn ei hyrwyddo ers nifer o flynyddoedd ac wedi codi'r angen amdano yn fy nadl ddiwethaf ar y pwnc hwn.
Bydd y mesurau newydd hyn yn darparu targedau a gymeradwywyd yn glinigol ac yn blaenoriaethu cleifion yn ôl eu risg o golli eu golwg yn barhaol. Ni ddylai neb golli eu golwg yng Nghymru oherwydd cyflwr llygaid y gellir ei drin. Edrychaf ymlaen at glywed bod byrddau iechyd wedi gweithredu'r mesurau newydd hyn ac at gael yr adroddiadau cynnydd cyntaf ym mis Ebrill 2019. Mae'n hen bryd inni gael tryloywder gan fyrddau iechyd ynghylch nifer y cleifion sydd mewn perygl o golli eu golwg. Mae hwn yn newid hirddisgwyliedig i'r system gofal llygaid yng Nghymru, a gadewch inni beidio ag anghofio'r cleifion yn hyn oll. Mae angen inni wneud yn siŵr eu bod yn cael eu hysbysu'n llawn ynglŷn â'r newidiadau, ac yn deall beth y maent yn ei olygu i'w gofal a'u triniaeth.