Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 3 Hydref 2018.
Rwy'n cytuno â'r Aelod dros Bort Talbot, o ran ei ddadansoddiad o fethiannau'r gwasanaeth prawf. Mae'r rhain yn faterion rwyf wedi'u trafod gyda'r gwasanaeth ei hun a chyda Gweinidogion yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Rwy'n cytuno ag ef mai yma y dylai'r materion hyn fod, yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru. Efallai y byddai'n falch o wybod bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ym mis Gorffennaf y byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar ddyfodol y gwasanaeth prawf. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw. Byddaf yn arwain dadl yn y lle hwn ar 23 Hydref i wrando ar yr hyn sydd gan yr Aelodau i'w ddweud ynglŷn â sut yr hoffent weld y gwasanaeth yn cael ei ddatblygu yng Nghymru, ond roeddwn yn falch iawn o weld bod y cynigion y mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn eu gwneud ar gyfer Cymru yn neilltuol ac yn cydnabod sefyllfa neilltuol Cymru. Credaf mai dyma'r cam cyntaf ar y llwybr at y math o wasanaeth prawf sy'n darparu gwasanaethau cydlynol a chyfannol yng Nghymru ac sy'n cyflawni ar gyfer pobl Cymru.