Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 3 Hydref 2018.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, yn 2014, penderfynodd Llywodraeth Geidwadol y DU ar y pryd breifateiddio'r gwasanaeth prawf gan ei hollti'n ddwy ran: y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a'r cwmnïau adsefydlu cymunedol, sydd hefyd i’w cael yma yng Nghymru. Nawr, fis Rhagfyr diwethaf, cawsom adroddiad gan brif arolygydd Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi, y Fonesig Glenys Stacey, a fynegodd gryn bryder ynglŷn â methiannau'r broses breifateiddio a'r anhrefn a oedd yn bodoli yn y system. Yr wythnos diwethaf, roedd ganddi adroddiad arall yn mynegi pryderon dwys a difrifol ynghylch diogelwch dioddefwyr cam-drin domestig oherwydd methiant y cwmnïau preifat hynny i ddiogelu'r dioddefwyr rhag y rhai a oedd yn eu cam-drin.
Nawr, mae'n hen bryd lladd y contractau hyn bellach a throsglwyddo’r cyfrifoldeb hwn i Lywodraeth Cymru. A ydych yn cytuno fod angen i Lywodraeth y DU roi camau ar waith—nid yn 2020, ddwy flynedd yn y dyfodol pan fydd y rhain wedi bod yn methu am ddwy flynedd arall, ond yn awr, a'u trosglwyddo i Lywodraeth Cymru fel y gallwch gymryd y camau angenrheidiol ar ran dinasyddion Cymru?