Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 3 Hydref 2018.
Cwpwl o wythnosau nôl, fe wnaethom ni glywed gan brif weithredwr cyngor Castell-nedd Port Talbot yn dweud y byddai'n rhaid iddyn nhw wneud pobl yn ddiwaith pe na byddai'r arian yn dod ar gyfer codiad cyflog athrawon o Lywodraeth San Steffan yn ganolog. Wrth gwrs, rydw i'n browd i ddweud bod Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru, wedi gofyn am yr arian hynny i ddod o Lywodraeth San Steffan yn y Senedd yno, ac mae e wedi helpu yn fawr iawn i sicrhau bod yr arian yn dod i Gymru. Ac felly, a allaf i ofyn pryd fydd yr arian hynny yn mynd i gyngor Castell-nedd Port Talbot, fel nad oes rhaid iddyn nhw ystyried gwneud pobl yn ddiwaith, ac fel eu bod yn gallu rhoi'r codiad cyflog, sydd yn haeddiannol iawn, i athrawon yn y cyngor sir hynny?