Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 3 Hydref 2018.
Diolch, Lywydd. Y bore yma, fe gyhoeddoch chi ddatganiad ysgrifenedig ar y cyd â'r Gweinidog Tai ac Adfywio ar y grant ymyrraeth gynnar, atal a chymorth. Fe sonioch chi am gynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau sy'n adlewyrchu cymhlethdod bywydau pobl, a'r gydberthynas rhwng eu hanghenion cymorth. Fe gadarnhaoch chi'r hyn a ddywedodd yr Ysgrifennydd cyllid ddoe: y byddai'r grant yn cael ei rannu'n ddwy ran, rhwng elfennau sy'n gysylltiedig â thai ac elfennau nad ydynt yn gysylltiedig â thai, ac yn sefydlu grant plant a chymunedau ar gyfer yr elfennau sy'n rhan o'ch cylch gwaith. Fe ddywedoch chi hefyd y byddwch yn gweithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid ehangach i ddatblygu'r trefniadau newydd, ac fe bwysleisioch chi bwysigrwydd atal ac ymyrryd yn gynnar. A allwch chi gadarnhau felly, neu a wnewch chi gadarnhau, a fydd y cyllid hwnnw'n cael ei glustnodi bellach, fel sy'n wir am grantiau yn gyffredinol, neu a fydd yn mynd i mewn i'r grant cynnal refeniw? Os na chaiff ei glustnodi, sut y bydd Llywodraeth Cymru'n monitro ac yn gwerthuso'r canlyniadau i ganfod a gyrhaeddodd yr arian hwn lle y bwriadwyd iddo gyrraedd?