Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 3 Hydref 2018.
Cyn ateb, Lywydd, a gaf fi groesawu llefarydd newydd y Ceidwadwyr i'w le? Rwy'n gobeithio fy mod wedi rhoi croeso mwy brwd iddo nag y gwnaeth rhai o'i gyd-Aelodau y prynhawn yma. [Chwerthin.] Rwy'n teimlo y gallent fod wedi gwneud yn well yn hynny o beth. A gaf fi ddweud fy mod yn edrych ymlaen at lawer o sgyrsiau ac at ymwneud â chi, Mark, dros y cyfnod i ddod?
O ran y grant y cyfeiriwch ato, rydym wedi bod yn ystyried yn fanwl sut y gallwn ddod â'r integreiddio yr hoffem ei weld ynghyd, gan sicrhau bod yr arian hwnnw'n parhau i gyrraedd y bobl sydd ei angen, a bod hynny'n digwydd mewn ffordd gydlynol sy'n galluogi i'w hanghenion gael eu diwallu. Rwy'n gobeithio bod y penderfyniad a gyhoeddwyd gennym heddiw—o ran model dau grant, os mynnwch, yr ymrwymwn i'w gynnal am weddill oes y Cynulliad—yn un a fydd yn diwallu anghenion derbynwyr ond y bydd hefyd yn caniatáu i awdurdodau lleol ac eraill sicrhau'r math o integreiddio sydd ei angen arnynt. Ond i ateb eich cwestiwn yn uniongyrchol, byddwn, fe fyddwn yn sicrhau cyfanrwydd y grantiau hynny.