Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 3 Hydref 2018.
Rwy'n gobeithio ein bod yn gweld cydweithio'n digwydd. Mae'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi cwblhau eu cyfnod cynllunio ac mae ganddynt raglenni y maent bellach am eu darparu. Yn amlwg, bydd gan bob rhaglen ei hamcanion ei hun, ac fe fyddwn ni—ac Aelodau ar draws y Siambr hon, rwy'n gobeithio—yn dwyn ein byrddau gwasanaethau cyhoeddus ein hunain i gyfrif mewn perthynas â chyflawni'r rhaglenni hynny a'r amcanion hynny.