Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 3 Hydref 2018.
Diolch. Rwy'n gobeithio hynny hefyd. Cawsom sesiwn graffu ar y byrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ychydig cyn toriad yr haf, felly cawsom gipolwg gan sefydliadau amrywiol ar ba mor dda roedd pethau'n gweithio. Un pwynt a wnaethpwyd gan amryw o dystion oedd bod gennym nifer o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus nad ydynt yn cael eu cadeirio gan rywun o awdurdod lleol. Gall hyn fod yn beth da, oherwydd nid ydym eisiau i'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus deimlo'u bod yn cael eu dominyddu gan yr awdurdod lleol. Ar y llaw arall, os nad ydynt yn cael eu harwain gan y cyngor lleol, gallai fod yn broblem os yw'r cyngor yn anfon rhywun cymharol ddibrofiad heb lawer o awdurdod dirprwyedig i gyfarfodydd y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus. Byddai hyn yn amlwg yn rhwystro'r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus rhag gweithredu'n effeithiol. Sut y credwch y gellir datrys y broblem hon?