Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 3 Hydref 2018.
Rwy'n gobeithio mai'r hyn a welwn yw deinameg wahanol gyda'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Credaf eu bod yn fwy adeiladol na'r byrddau gwasanaethau lleol a oedd yn eu rhagflaenu. Rydym wedi gweld eu cynlluniau llesiant lleol. Rwy'n credu bod amrywiaeth eang yno, sy'n adlewyrchu dyheadau gwahanol byrddau gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Rwy'n croesawu'r amrywiaeth honno. Rwy'n croesawu'r ffaith bod byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn cyflawni eu swyddogaethau gyda lefel o greadigrwydd a chydweithio cydgysylltiedig a fu ar goll o bosibl mewn elfennau o'r sector cyhoeddus yn y gorffennol. Edrychaf ymlaen at gyfnod o flaen y pwyllgor—rwy'n tybio y bydd hynny'n digwydd yn ddiweddarach y mis hwn—ac edrychaf ymlaen at drafod y materion hyn gyda chi. Rwy'n edrych ymlaen hefyd at ddeall beth oedd tystiolaeth a chasgliadau'r pwyllgor, ac edrychaf ymlaen at ddarllen adroddiad y pwyllgor.