Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 3 Hydref 2018.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Ers dychwelyd i'r lle hwn, rwyf wedi cael nifer o sylwadau gan awdurdodau lleol yn fy ardal fy hun, yn fy rhanbarth fy hun ac ym Mhowys yn arbennig, sy'n dadlau—ac rwy'n siŵr na fydd hwn yn bwynt newydd i chi—fod y fformiwla gyfredol yn creu anawsterau i bobl mewn ardaloedd gwledig. Er enghraifft, os ydych yn deulu ar gyflogau isel sy'n byw yng nghefn gwlad Powys, rydych angen dau gar er mwyn gallu cael mynediad at gyflogaeth o gwbl. A wnewch chi barhau i gadw'r fformiwla o dan adolygiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac a wnewch chi roi ystyriaeth, yn enwedig o ystyried pryderon pobl am effaith bosibl Brexit ar y Gymru wledig a'r economi wledig—a wnewch chi edrych eto ar rai o'r ffactorau a allai fod yn arwyddion o gyfoeth mewn cymunedau mwy trefol, ond sydd ond yn arwyddion o oroesiad mewn cymunedau gwledig?