Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 3 Hydref 2018.
Bydd y Llywydd yn ymwybodol mai un o fy ngweithredoedd cyntaf fel Aelod yma yn ôl yn 2007 oedd cynnal adolygiad o dlodi ac amddifadedd gwledig mewn cymunedau gwledig ac rwy'n cofio'r ymchwiliad hwnnw hyd heddiw. Rydym yn deall y gall tlodi yng nghefn gwlad Cymru fod yn wahanol iawn i dlodi mewn cymunedau trefol. Rydym yn deall hynny'n dda iawn. Mae'r fformiwla'n ceisio adolygu'r materion hynny ac mae'n ceisio sicrhau bod pob awdurdod yn cael cyllid teg sy'n diwallu'r anghenion sydd ganddynt. Rydym yn cydnabod nad yw'r swm sydd ar gael i ni eleni a'r flwyddyn nesaf yr hyn y byddem yn dymuno iddo fod, ac nid y fformiwla sy'n gyfrifol am hynny ond yn hytrach y polisïau cyni aflwyddiannus a ddilynir gan Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig. Dywedodd Prif Weinidog y DU y bore yma fod cyni wedi dod i ben. Rwy'n ofni y bydd Brexit yn golygu y bydd cyni'n dyfnhau ac yn ehangu ac yn cynyddu, yn enwedig yn y Gymru wledig, ac na fydd yn dod i ben yn y ffordd y mae'r Prif Weinidog braidd yn naïf yn ei gredu.