Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 3 Hydref 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, un o amcanion bwrdd gwasanaethau cyhoeddus Caerffili yw gwella iechyd pawb sy'n byw yn yr ardal a'i gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus feddwl am effeithiau hirdymor eu penderfyniadau i atal problemau parhaus megis anghydraddoldebau iechyd. Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus Caerffili ar sut i ymateb i gynlluniau'r cyngor i gau mwy na hanner y canolfannau hamdden yn y fwrdeistref, gyda'r effaith o amddifadu pobl o fynediad cyfleus at gyfleusterau hamdden ar adeg pan fo lefelau gordewdra ymhlith plant yng Nghaerffili yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol yng Nghymru, os gwelwch yn dda?