Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:02, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Ers tro, fy null o weithredu yn y rôl hon yw peidio â gwneud sylwadau ar benderfyniadau unigol awdurdodau unigol; nid wyf yn credu bod honno'n ffordd gywir na phriodol i Weinidog ymateb, na rhoi sylwadau ar benderfyniadau awdurdodau lleol wrth symud ymlaen. Ond rwyf am ddweud hyn—rwyf am ddweud bod gwella canlyniadau iechyd yn rôl gwbl hanfodol i bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus, a bydd y ffordd y maent yn gwneud hynny'n adlewyrchu blaenoriaethau'r ardal benodol honno.