Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 3 Hydref 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl bwysig hon ar ran y Pwyllgor Deisebau. Mae amgylchiadau'r ddeiseb a drafodwn heddiw wedi bod yn hynod o emosiynol i holl aelodau'r pwyllgor. Cyflwynwyd y ddeiseb gan deulu Peter Baldwin. Yn drasig iawn, bu farw Peter, a oedd yn 13 oed ac o Gaerdydd, ym mis Ionawr 2015 o effeithiau diabetes math 1 na wnaed diagnosis ohono.