6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: Deiseb P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 3:20, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Cyflwr awto-imiwn yw diabetes math 1 lle nad yw'r pancreas yn cynhyrchu inswlin. Mae'r corff angen inswlin er mwyn troi glwcos o fwyd yn egni a hebddo, mae'r glwcos yn aros yn llif y gwaed gan arwain at lefelau siwgr uchel yn y gwaed. Er bod diabetes math 1 yn gallu digwydd ar unrhyw oedran, yn fwyaf arferol gwneir diagnosis ohono mewn plant o dan 15 oed. Mae diabetes ar oddeutu 1,400 o blant yng Nghymru, ac mae'r mwyafrif helaeth ohonynt—tua 96 y cant—yn achosion o ddiabetes math 1.

Bydd rhai ohonom yn y Siambr hon heddiw yn gwybod y gall diabetes math 1 ddatblygu'n eithriadol o gyflym, a gall hynny fod yn eithriadol o beryglus. Yn anffodus, nid oes digon o ymwybyddiaeth o ddiabetes math 1 ac nid oes proffil cyhoeddus digon uchel i symptomau mwyaf cyffredin y cyflwr, a gwella adnabyddiaeth a diagnosis o ddiabetes math 1 yw prif fyrdwn y ddeiseb hon. Gan fod effeithiau diabetes math 1 heb ddiagnosis yn gallu bod yn angheuol, mae diagnosis cynnar o'r cyflwr yn gwbl hanfodol. Fodd bynnag, mae'n wir hefyd y gellir camgymryd y symptomau cyffredin yn rhwydd am gyflyrau eraill llai peryglus. Mae'r symptomau hynny—a elwir yn 4T—yn allweddol i'r ddadl hon y prynhawn yma, sef; tŷ bach—awydd i wneud dŵr yn amlach; teimlo'n sychedig; teimlo'n flinedig; teneuach. Ac oherwydd ei bod yn bosibl fod mwy o bobl yn gwrando ar y ddadl hon na'r rhai sydd yn y Siambr, hoffwn ailadrodd y 4T: tŷ bach—awydd i wneud dŵr yn amlach; teimlo'n sychedig; teimlo'n flinedig; teneuach. O ystyried y byddem yn gobeithio y byddai gennym gynulleidfa ehangach na'r un sydd gennym yn y Siambr, rwyf am ailadrodd y pwyntiau hynny eto: tŷ bach—awydd i wneud dŵr yn amlach; teimlo'n sychedig; teimlo'n flinedig; teneuach.

Oherwydd yr anawsterau i wneud diagnosis o ddiabetes math 1, ac oherwydd ei fod yn gyflwr cymharol anghyffredin, ni wneir diagnosis o oddeutu chwarter yr achosion hyd nes y bydd y claf mewn cetoasidosis diabetig—mae'n ddrwg gennyf os nad wyf yn ynganu hwnnw'n gywir—neu fe'i gelwir yn fwy cyfarwydd yn DKA. Yn drasig, dyma'r sefyllfa a wynebodd Peter a'i deulu. Rhoddwyd diagnosis o ddiabetes math 1 a DKA yn y fan ar lle i Peter gan barafeddyg ymateb cyflym a oedd wedi defnyddio prawf gwaed pigo bys, a hynny ar Ddydd Calan 2015. Bedair awr ar hugain yn gynharach, roedd Peter wedi gweld meddyg teulu a oedd wedi gwneud diagnosis o haint ar y frest yn seiliedig ar ei symptomau, ac wedi presgripsiynu gwrthfiotigau, ond ni ddefnyddiodd y prawf gwaed pigo bys. Ffoniodd y parafeddyg am ambiwlans ar unwaith, ac aethpwyd â Peter i'r ysbyty. Er gwaethaf y driniaeth a gafodd, roedd hi'n rhy hwyr i achub ei fywyd.

Hoffwn dalu teyrnged i deulu Peter ar y pwynt hwn. Cyflwynwyd y ddeiseb gan daid Peter, Anthony, ac mae trugaredd, ysgogiad ac unplygrwydd y teulu cyfan wedi bod yn amlwg i'r Pwyllgor Deisebau drwy gydol ein trafodaethau. Yn fwyaf arbennig, mae rhieni Peter, Beth a Stuart, a'i chwaer, Lia, wedi ymdrechu'n ddewr i sicrhau bod y drasiedi a brofodd y teulu yn arwain at welliannau i eraill. Mae'n werth nodi hefyd eu bod wedi bwrw iddi gyda'u hymgyrch mewn ffordd eithriadol o gadarnhaol. Nid yw'r ddeiseb hon ond yn un agwedd ar eu hymdrechion i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ddiabetes math 1, yn ogystal â chodi arian sylweddol i Diabetes UK Cymru. Rwy'n argyhoeddedig fod yr ymdrechion hyn eisoes wedi cael effaith fawr, a dylai'r teulu cyfan fod yn eithriadol o falch o bopeth y maent wedi'i gyflawni hyd yma.

Gan droi yn awr at adroddiad y pwyllgor ar y ddeiseb ac at ein hargymhellion, rydym wedi ystyried ystod eang o faterion mewn perthynas â chanfod a gwneud diagnosis o ddiabetes math 1 mewn plant a phobl ifanc. Cafodd y ddeiseb ei derbyn gyntaf ym mis Mawrth 2016. Er bod y ddeiseb yn cyfeirio at 'sgrinio rheolaidd' ar gyfer math 1 mewn plant a phobl ifanc, sefydlodd y pwyllgor mai prif ffocws y teulu Baldwin yw'r angen i wella diagnosis cynnar o ddiabetes math 1, ac ymwybyddiaeth o'r cyflwr ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol a'r cyhoedd. Mae pawb sy'n ymwneud â'r ddeiseb wedi cytuno mai'r ffordd orau o gyflawni hyn fyddai drwy sicrhau bod y profion priodol yn cael eu cynnal pan fo unigolyn yn arddangos symptomau'r 4T ar gyfer math 1.