7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Colli Babanoad

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:31, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau a gyflwynodd y ddadl ar fater pwysig ac emosiynol iawn arall, ond yn arbennig i'r rhai sydd wedi cyfrannu.

Mae marw-enedigaethau, colli baban yn ystod beichiogrwydd a marwolaeth baban yn aml yn ddigwyddiadau nad ydym yn ystyried eu bod yn mynd i ddigwydd i ni. Maent yn bethau y clywn amdanynt yn digwydd i bobl eraill. Ond maent yn digwydd i lawer o bobl yn ein gwlad a byddant yn digwydd eto yn y dyfodol. Rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth y gallwn ac y dylem ei wneud i leihau'r digwyddiadau trallodus hyn.

Pan fydd teuluoedd yn dioddef yn sgil colli baban, rhaid i GIG Cymru sicrhau bod gwasanaethau profedigaeth ar gael i ddarparu'r cymorth a'r amgylchedd priodol er mwyn i deuluoedd dreulio amser gyda'u baban. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gweithio gyda rhwydweithiau mamolaeth a newyddenedigol mewn cydweithrediad â'r byrddau iechyd er mwyn sicrhau arferion gwell a safonedig.

Yng Nghymru, cafodd ein hymateb i farw-enedigaethau ei gryfhau ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnal ymchwiliad undydd i farw-enedigaethau yn 2013, ac fel nifer o'r Aelodau eraill roeddwn ar y pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad hwnnw. Sefydlwyd y rhwydwaith mamolaeth fel argymhelliad a ddeilliodd o hynny. Roedd yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o farw-enedigaethau, a gweithredu mesurau i ganfod babanod mewn perygl a gwella iechyd mamau, sy'n ffactor risg allweddol. Yn ogystal, roedd yn cynnwys gweithredu rhaglen asesu twf ar draws Cymru, gyda hyfforddiant amlbroffesiynol ac ymarferion argyfwng a chanllawiau ar gyfer pan fyddai lleihad yn symudiadau'r ffetws, a phroses adolygu marwolaethau amenedigol a'r gwersi i'w dysgu o hynny.

Ond mae marw-enedigaethau a cholli babanod yn ystod beichiogrwydd yn aml yn bynciau na chaiff eu trafod. Clywsom gan Jayne Bryant am ei hatgof o hynny, ond yn arbennig am brofiad personol Dai Lloyd. Ceir adegau pan fyddwch yn clywed pethau gan yr Aelodau yn y Siambr hon na wyddoch amdanynt ac na fyddech wedi'u disgwyl. Gallai fod wedi digwydd rai degawdau yn ôl, ac er yr holl brofiad meddygol a phrofiad bywyd, rwy'n credu ei fod yn dal yn beth hynod o ddewr i'w rannu yn y Siambr am yr effaith go iawn, ac mae'n gwneud y stori honno sy'n digwydd mewn teuluoedd eraill bob dydd yn y wlad yn fyw iawn ac yn amlygu pam y mae angen inni wella'r hyn y gallwn ei wneud.

Gwrandawodd y fenter beichiogrwydd diogelach a arweinir gan y rhwydwaith mamolaeth ar deuluoedd a oedd yn dymuno i obstetregwyr a bydwragedd dorri drwy'r tawelwch. Gyda chymhlethdod cynyddol mewn beichiogrwydd, gan gynnwys gordewdra, ysmygu a ffactorau iechyd mamol fel diabetes, mae perygl o gynyddu nifer yr achosion o farw-enedigaethau, nid eu lleihau. Dyna pam yr oedd y fenter beichiogrwydd diogelach mor bwysig, gyda'r posteri, y waledi gwybodaeth i gario nodiadau llaw, ac i godi ymwybyddiaeth o bethau fel symudiadau ffetws, ysmygu, bwyta'n dda, a gweld eich bydwraig yn gynnar er mwyn manteisio ar y gofal bydwreigiaeth rhagorol sydd ar gael. Mae gwerthusiad diweddar o'r fenter honno wedi dangos bod menywod a gweithwyr gofal iechyd yn croesawu'r dull, ac mae'r rhwydwaith eisoes yn edrych ar ffyrdd o ledaenu'r neges mewn ffordd gyson.

Sefydlwyd rhwydwaith newyddenedigol Cymru yn hydref 2010 ac mae'n ceisio sicrhau'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer babanod a mamau gyda gofal mwy safonedig. Mae'n dod â gweithwyr iechyd proffesiynol y GIG a phartneriaid o sefydliadau eraill at ei gilydd i oruchwylio gofal newyddenedigol yn erbyn safonau newyddenedigol Cymru gyfan. Mae'r safonau hynny'n nodi y dylai pob uned sicrhau bod mynediad amserol at gymorth seicolegol ar gael i rieni, ac fel y clywsom ar y dechrau, mae gennym beth ffordd i fynd cyn i ni gyrraedd yno ar sail gyson. Yn gynharach eleni, dechreuodd y rhwydweithiau newyddenedigol a mamolaeth eu cynlluniau i uno a dod yn rhwydwaith ar y cyd yn ystod y flwyddyn nesaf, gyda threfniadau arweinyddiaeth a llywodraethu diwygiedig. Bydd yr uno'n sicrhau cyfleoedd i feithrin cysylltiadau agosach ar draws y llwybr ehangach i'r fam a'i baban, ac i ddarparu meysydd newydd ar gyfer gweithio ar y cyd a gwella.

Mae genedigaeth babi ar ffin y gallu i oroesi yn ansicr o ran canlyniad, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda'n GIG a chyda theuluoedd i ddatblygu canllawiau ar gyfer gweithwyr proffesiynol, er mwyn sicrhau bod pob baban yn derbyn asesiad unigoledig. Os rhagwelir y bydd baban yn cael ei eni ar ffin y gallu i oroesi, neu os yw'n digwydd, dylai timau newyddenedigol a mamolaeth sicrhau y gwneir asesiadau clinigol a phenderfyniadau unigoledig am y rheolaeth barhaus a'r cymorth a ddarperir. A rhaid i'r defnydd o'r crebwyll clinigol hwnnw ddigwydd mewn partneriaeth sensitif â theuluoedd, y dylid eu trin â pharch ac urddas.

Mae marwolaeth baban yn brofiad erchyll i bawb sy'n ei wynebu. Mae menywod a theuluoedd yn haeddu cymorth personol a gwybodaeth yn dilyn marw-enedigaeth a marwolaeth baban. Gwnaed gwaith ar y cyd eisoes gydag asiantaethau trydydd sector megis yr elusen marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol, Sands, a 2 Wish Upon a Star, i helpu i ddarparu hyfforddiant, gwybodaeth i deuluoedd, ac i ddatblygu amgylcheddau gwell, ac i roi cyfleoedd i ddatblygu atgofion ar gyfer y dyfodol.

Y pwynt cadarnhaol y dylid ei gymryd yw bod gennym ragoriaeth yn ein gwasanaethau yma yng Nghymru eisoes. Efallai y bydd yr Aelodau'n cofio Laura Wyatt, sy'n fydwraig yng Nghaerdydd a'r Fro. Fe'i gwnaed hi'n fydwraig y flwyddyn y DU yng Ngwobrau diweddar Coleg Brenhinol y Bydwragedd, a daeth y wobr honno wedi iddi gael ei henwebu gan rieni mewn profedigaeth, a'r cymorth a roddodd iddynt a'i chefnogaeth wedyn wrth iddynt ddod yn rhieni, dyna oedd pwynt yr enwebiad—cydnabod y gwahaniaeth a wnaeth ei gwaith. Mae hi'n rhan o is-grŵp profedigaeth y rhwydwaith mamolaeth, i helpu i ddatblygu'r safonau uwch ac i ddatblygu amgylcheddau gwell ar gyfer rhieni.

Yn y gwasanaethau mamolaeth bellach, mae gan bob bwrdd iechyd arweinydd profedigaeth dynodedig i gefnogi teuluoedd a'u galluogi i dreulio amser gyda'u babanod. Felly, rwy'n croesawu safonau'r DU ar gyfer gofal profedigaeth a fydd yn cael eu lansio yr wythnos nesaf. Mae'r rhwydwaith mamolaeth wedi cysylltu gyda Sands drwy gydol y broses o ddatblygu a threialu'r llwybr gofal a'r safonau. Mae'r rhwydwaith mamolaeth wedi mabwysiadu'r rhain o fewn y safonau profedigaeth newydd ar gyfer Cymru gyfan, felly mae gan yr holl wasanaethau mamolaeth lwybr profedigaeth ar waith, a bydd yn adolygu'r rhain yn dilyn gwerthusiad o gynllun peilot y DU.

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yn gyfle inni gofio'r babanod sydd wedi marw, a dylai ein helpu i dorri drwy'r tawelwch a dechrau sgyrsiau am y mater pwysig hwn i wneud yn siŵr nad yr hyn y mae Dai Lloyd yn ei gofio am bobl yn fwriadol yn osgoi cael sgwrs yw'r ffordd y byddwn yn gweithio ac yn ymddwyn yn y dyfodol. Bydd darparu gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol diogel ac effeithiol ar gyfer menywod a theuluoedd yn helpu i gynorthwyo pob plentyn a phob teulu i gael y dechrau gorau posibl. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod teuluoedd sy'n dioddef colli baban yn cael y gofal a'r cymorth gorau posibl gan ein gwasanaethau iechyd yma yng Nghymru, ac rwy'n hapus hefyd i ymrwymo i roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau yn y dyfodol ar y cynnydd a wnawn yn sgil pasio'r cynnig hwn.