7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Colli Babanoad

– Senedd Cymru am 4:09 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:09, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar golli babanod, a galwaf ar Lynne Neagle i gyflwyno'r cynnig—Lynne.

Cynnig NDM6801 Lynne Neagle, David Rees, Adam Price

Cefnogwyd gan Angela Burns, Dai Lloyd, Helen Mary Jones, Jayne Bryant

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y bu 263 o fabanod farw neu'n farw-anedig yng Nghymru yn 2016 ac, yn aml, na all teuluoedd yr effeithir arnynt gan golli baban gael mynediad priodol at wasanaethau neu gymorth.

2. Yn croesawu wythnos ymwybyddiaeth colli babanod, a drefnir gan gynghrair o fwy na 60 o elusennau ledled y DU ac a gynhelir rhwng 9 a 15 Hydref 2018 i roi cyfle i godi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd gofal profedigaeth rhagorol i bob rhiant ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl marwolaeth baban.

3. Yn cydnabod bod wythnos ymwybyddiaeth colli babanod hefyd yn rhoi cyfle pwysig i rieni mewn profedigaeth, a'u teuluoedd a'u ffrindiau, uno a choffáu bywydau eu babanod.

4. Yn cydnabod y dylai pob rhiant mewn profedigaeth gael yr un safon uchel o ofal pan fydd baban yn marw, ac er na all gofal da ddileu poen a galar rhieni, gall helpu rhieni drwy'r amser trychinebus hwn.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella'r gofal y mae rhieni yn ei dderbyn ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban drwy:

a) ymrwymo i ddarparu gwell gofal profedigaeth sydd ar gael i bob rhiant ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl marwolaeth baban, a gwella'r gofal hwnnw;

b) mabwysiadu set graidd o safonau ar gyfer gofal profedigaeth sydd wedi'u defnyddio i ategu'r Llwybr Gofal Profedigaeth Cenedlaethol yn ardaloedd eraill y DU;

c) gweithio gyda GIG Cymru i sicrhau bod pob aelod o staff sy'n dod i gysylltiad â rhieni mewn profedigaeth yn cael hyfforddiant gofal profedigaeth.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 4:10, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i agor y ddadl Aelodau unigol ar golli babanod. Yn anffodus, nid yw colli baban yn ystod beichiogrwydd a marwolaeth baban yn ddigwyddiadau anghyffredin. Daw un o bob pedwar beichiogrwydd i ben drwy gamesgoriad, ac ar draws y DU, mae 15 o fabanod yn marw bob dydd naill ai cyn, yn ystod neu'n fuan ar ôl genedigaeth, sy'n golygu bod miloedd o rieni yn mynd drwy drasiedi marwolaeth eu baban.

Mae'r rhan fwyaf o farwolaethau ymhlith plant yn y DU yn digwydd o fewn y flwyddyn gyntaf o fywyd. Marwolaethau newyddenedigol—marwolaeth baban o fewn pedair wythnos gyntaf bywyd—yw rhwng 70 y cant ac 80 y cant o'r holl farwolaethau babanod ledled y DU. Ac yng Nghymru, yn 2016, aeth teuluoedd 263 o fabanod drwy artaith eu baban yn marw neu'n cael eu geni'n farw-anedig. Golyga hyn fod y mwyafrif helaeth o rieni a fydd angen cymorth ar ôl marwolaeth plentyn yn rhieni i fabanod ifanc iawn sy'n 28 diwrnod oed neu'n iau. Mae ansawdd y gofal y bydd teuluoedd mewn profedigaeth yn ei gael ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban yn allweddol i'w hadferiad. Ni all gofal da ddileu poen a gofid rhieni, ond mae'n gallu eu helpu i ddod trwy'r drasiedi. Ar y llaw arall, gall gofal gwael ychwanegu'n sylweddol at eu gofid. Dyna pam y mae'r cynnig heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi camau ar waith i wella'r gofal y bydd rhieni'n ei gael ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban, i sicrhau bod teuluoedd yn cael gwasanaethau neu gymorth priodol.

Nid yw'r anawsterau y bydd teuluoedd yn eu hwynebu i gael gwasanaethau profedigaeth yn dilyn camesgoriad neu farw-enedigaeth yn fater newydd i ni yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, cyflwynwyd adroddiad i Lywodraeth Cymru yn galw am well mynediad at arbenigwyr a mwy o ofal tosturiol i fenywod sy'n dioddef camesgoriad. Mae'r adroddiad, sy'n cyflwyno'r achos dros well gofal camesgoriad yng Nghymru, yn amlinellu safbwyntiau menywod ynglŷn â'r gofal a gawsant ar ôl cael camesgoriad. Ymhlith ei argymhellion, mae'n galw am lefelau uwch o gymorth seicolegol ac emosiynol, a chreu dau glinig pwrpasol yng Nghymru ar gyfer menywod sydd wedi colli baban yn ystod beichiogrwydd sawl gwaith.

Clywodd y pwyllgor rwy'n ei gadeirio, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, am y diffyg cymorth seicolegol i rieni mewn profedigaeth ar ôl colli babanod newyddenedigol yn ei ymchwiliad diweddar i iechyd meddwl amenedigol. Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru wrthym fod effeithiau colli baban ar iechyd meddwl y fam wedi'i gydnabod yn dda, a thynnodd sylw at alwad Coleg Brenhinol y Bydwragedd am fydwragedd arbenigol i gefnogi teuluoedd mewn profedigaeth. Dywedodd Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr wrthym fod ei arolwg ledled y DU o fenywod a oedd wedi dioddef problemau iechyd meddwl amenedigol wedi canfod nad oedd rhai o'r ymatebwyr a oedd wedi profi camesgoriad a marw-enedigaethau yn teimlo eu bod wedi cael digon o gymorth yn dilyn y digwyddiadau hyn neu yn ystod beichiogrwydd dilynol. A dywedodd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wrthym fod profedigaeth yn sgil camesgoriad, marw-enedigaeth neu farwolaeth newyddenedigol yn fwy tebygol o arwain at broblemau iechyd meddwl yn y ddau riant.

Ac eto, ar yr adegau pan gynigiwyd cymorth i fenywod, clywsom na chafodd ei gynnig i'w partneriaid, gyda llawer o fenywod yn nodi'r teimlad fod yna ragdybiaeth nad oedd y digwyddiadau hyn yn effeithio ar ddynion yn yr un modd ag y maent yn effeithio ar fenywod. Clywsom hefyd fod rhai menywod wedi nodi na chawsant gynnig unrhyw gymorth profedigaeth, er iddynt ofyn amdano, neu eu bod wedi'i gael ormod o amser ar ôl y digwyddiad. Yn amlwg nid yw hyn yn dderbyniol.

Cyhoeddwyd adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar iechyd meddwl amenedigol ym mis Hydref y llynedd. Ymhlith ein hargymhellion roedd galwad ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae'n disgwyl i'r diffyg cymorth seicolegol ar gyfer rhieni mewn profedigaeth newyddenedigol gael ei ddatrys, a'r safonau sydd i'w cyrraedd, a pha gamau y bydd yn eu rhoi ar waith os na chydymffurfir â'r safonau. Cyhoeddwyd trydydd argraffiad o safonau newyddenedigol Cymru ym mis Mai—yn hwyrach nag y gobeithiem fel pwyllgor. Ceir cyfeiriad yn y safonau at gymorth seicolegol ar gyfer rhieni, cymorth y dylai pob bwrdd iechyd weithio i'w gyflawni. Mae'r safonau'n datgan bod mynediad amserol at gymorth seicolegol yn hanfodol i atal unrhyw effaith ar iechyd meddwl y rhiant, ac y dylai pob uned newyddenedigol sicrhau bod digon o seicolegwyr, cwnselwyr a gweithwyr iechyd meddwl eraill ar gael, fel bod rhieni, brodyr a chwiorydd a staff yn gallu cael cymorth.

Mae papur briffio gan Bliss, yr elusen ar gyfer babanod sy'n cael eu geni'n gynnar neu'n sâl, yn dweud eu bod wedi canfod bod rhieni mewn mwy na hanner yr unedau newyddenedigol heb gael mynediad at gymorth seicolegol, er gwaethaf y gofynion clir yn y safonau, ac nid oes gan yr un o'r tair uned gofal dwys i'r newyddanedig weithiwr iechyd meddwl dynodedig. Yn amlwg, nid yw hyn yn ddigon da, ac mae'n fater y byddaf yn mynd ar ei drywydd gyda Llywodraeth Cymru gan fod y safonau newydd wedi'u cyhoeddi bellach, fel rhan o'r gwaith dilynol y mae'r pwyllgor yn ei wneud ar ein hymchwiliad i iechyd meddwl amenedigol. Dyna pam rwy'n falch o gael y cyfle hwn i godi'r mater eto heddiw. Rwy'n ddiolchgar hefyd i fy nghyd-gyflwynwyr—David Rees, a thad newydd ac arweinydd newydd Plaid Cymru, Adam Price—am gefnogi'r cynnig hwn, a hefyd i'r holl Aelodau sydd wedi nodi eu cefnogaeth iddo.

Yr wythnos nesaf yw Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod ledled y DU. Bydd yn cael ei chynnal rhwng 9 a 15 Hydref. Fe'i trefnir gan gynghrair o fwy na 60 o elusennau sy'n gweithio i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gofal profedigaeth ardderchog ar gyfer pob rhiant ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban. Drwy gydol yr wythnos, bydd rhieni mewn profedigaeth, eu teuluoedd a'u ffrindiau yn uno gyda'i gilydd ac eraill i goffáu bywydau babanod a fu farw yn ystod beichiogrwydd, wrth gael eu geni neu'n fuan ar ôl eu geni, ac yn ystod babandod. Mae digwyddiad goleuo cannwyll yn cael ei noddi gan fy nghyd-Aelod Mark Drakeford ym mhrif neuadd y Pierhead ddydd Mercher 10 Hydref, o 12:15 i 12:45, fel rhan o'r Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod, ac rwy'n gobeithio y bydd llawer o'r Aelodau'n ymuno yn y digwyddiad hwnnw.

Mae'r sefydliadau sydd y tu cefn i'r Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod a thu cefn i'r cynnig rwy'n ei gyflwyno heddiw yn galw ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol, llunwyr polisi a seneddwyr i wneud yn siŵr fod rhieni sy'n dioddef yn sgil colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban yn cael y cymorth gorau posibl pryd bynnag y bo'i angen arnynt ni waeth ble maent yn byw. Ni ddylai ansawdd gofal i rieni mewn profedigaeth fod yn loteri. Mae rhieni Cymru'n haeddu gwell. Dyna pam y mae'r cynnig hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru a GIG Cymru i roi camau pendant ar waith i wella'r gofal y mae rhieni'n ei gael ar ôl colli baban.

Rwy'n deall bod Lloegr a'r Alban wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y 18 mis diwethaf ar ddatblygu a darparu llwybr gofal profedigaeth cenedlaethol a luniwyd i wella ansawdd y gofal i rieni a theuluoedd ar bob cam o golli baban yn ystod beichiogrwydd a marwolaeth baban. Mae'r llwybr yn cynnwys adnoddau, pecynnau cymorth a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol. Ni ddylai fod y tu hwnt inni yng Nghymru allu sicrhau bod ein rhieni ninnau hefyd yn cael gofal o ansawdd da ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban. Dyna pam y mae'r cynnig hwn heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru a GIG Cymru i fabwysiadu set graidd o safonau gofynnol ar gyfer gofal profedigaeth i rieni sydd wedi colli baban.

Er bod angen gwneud llawer mwy i gefnogi teuluoedd sydd wedi colli babanod, ceir rhai mentrau gwych yng Nghymru. Un cynllun o'r fath yw'r cymorth profedigaeth newyddenedigol a ddarperir gan y tîm allgymorth newyddenedigol ym Mwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda. Yn sicr, mae'n ddyletswydd arnom i fynnu bod cymorth o ansawdd yn cael ei roi i bob rhiant ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth babi. Mae'n bryd rhoi'r gorau i siarad a gwneud rhywbeth, ac rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw.  

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:18, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, mae yna rai cyflwyniadau grymus y prynhawn yma—yn y ddadl flaenorol ac yn hon. Rwy'n ddiolchgar i Lynne Neagle am agor y ddadl bwysig hon oherwydd rwy'n siarad gyda balchder ac anrhydedd yn y ddadl hon i gefnogi'r cynnig ac i ddathlu'r holl waith a wnaed yn y maes anodd hwn. Ond mae angen gwneud cymaint mwy i ddarparu adnoddau ychwanegol ar gyfer yr holl nyrsys, y meddygon, y bydwragedd, y cwnselwyr profedigaeth, yr unedau newyddenedigol a'r holl elusennau. Mae gwasanaethau dan gymaint o bwysau, ac mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n llawn edmygedd o bawb ohonoch sy'n darparu gwasanaethau allan yno.

Ar 9 Tachwedd 1985, bu farw ein mab cyntafanedig, Huw, 40 munud ar ôl iddo gael ei eni, ym mreichiau fy ngwraig. Cawsom un darlun Polaroid cyflym ohono. Cynhaliwyd archwiliad post mortem, ac ychydig ddyddiau wedyn, yr angladd. Mae'r cyfan ychydig yn aneglur bellach, oherwydd ar ôl yr angladd, bu'n rhaid imi fynd yn syth yn ôl i weithio yn y feddygfa yn Fforest-fach. Mae Huw wedi'i gladdu mewn bedd heb ei farcio ym mynwent Treforys heddiw, fel cymaint o fabanod bach eraill.

Ar y pryd, ni allai neb siarad â ni am y trychineb hwn. Aeth ein teuluoedd i'w cregyn. Cafodd fy staff yn y feddygfa gyfarwyddwyd penodol gan y meddygon teulu a oedd yn bartneriaid i mi i beidio â sôn am Huw. Ond am gwnselydd profedigaeth gwych a gawsom. Mae'n gwneud i chi feddwl, 'Pam ni? Pam Huw?', a gallwch lithro i hunandosturi, neu gallwch ddweud wrthych eich hun, 'Nid yw'r drasiedi hon yn mynd i ddiffinio fy holl fywyd.' Yn sicr, fe wnaeth oes fer Huw i mi feddwl am fywyd, ei ystyr, a beth y gallwch ei gyflawni mewn 40 munud, beth y gallwch ei gyfrannu i'r ddynoliaeth mewn cynhesrwydd, cydymdeimlad a charedigrwydd na chafodd pobl eraill, fel Huw, erioed mo'r cyfle i'w gyfrannu—dim ond rhoi hwb i mi gyfrannu ar ei ran yntau hefyd.

Nid yw wedi'i anghofio. Mae ein gweithredoedd ni fel ei rieni yn deyrnged iddo ef; ei fywyd na allai gyfrannu, ond a ysgogodd eraill. Deuthum yn feddyg gwell ar ôl y trychineb hwn. Roedd fy nghwnsela bellach wedi'i seilio ar ddyfnder profiad wedi'i fyw yn hytrach na'i godi o'r llyfrau addysg. Oherwydd nad yw pobl yn gwybod beth i'w ddweud mewn trasiedi, fel pan oeddent yn wynebu fy ngwraig a minnau, rwy'n dweud wrth bobl yn awr—nid ydynt yn gwybod beth i'w ddweud, ac rwy'n dweud, 'Dywedwch, "mae'n ddrwg gennyf", dyna i gyd. Peidiwch â cherdded i ffwrdd. Peidiwch â throi eich cefn. "Mae'n wir ddrwg gennyf." Nid oes geiriau', dyna rwy'n ei gynghori, 'A "fe wrandawaf pan fyddwch eisiau siarad."' Peidiwch byth â throi eich cefn ar rywun sydd wedi wynebu trasiedi.

Fe heriodd Huw fi, yn ei 40 munud, i wneud ei ran yntau, ac i beidio â pharhau i fod yn ddioddefwr, ond i fyw fel teyrnged iddo ef. Dilynodd tri phlentyn bendigedig ac ar 9 Tachwedd y llynedd, ganwyd ein hŵyr cyntaf, Dyfan.

I gloi, fel ACau Plaid Cymru rydym yn aml yn dweud ein bod yn sefyll ar ysgwyddau cewri hanes Cymru yma yn y Senedd, gan gadw fflam Cymru'n fyw. Rydym hefyd yn sefyll ar ysgwyddau'r rheini a fyddai wedi bod wrth eu bodd yn gwneud cyfraniad, ond na allodd wneud hynny. Diolch yn fawr.

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 4:22, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o gael cyfle i siarad ar y cynnig hwn cyn Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod. Nid oes modd gorbwysleisio'r effaith y mae colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth babi yn ei chael. Gall teimlo eich bod yn gallu neu eich bod wedi cael caniatâd i alaru fod yn anhygoel o anodd, yn enwedig yn y misoedd a'r blynyddoedd wedyn. Dywedodd un fam wrthyf fod gwasanaethau coffa arbennig yn dod â chymaint o gysur oherwydd gall teuluoedd ganiatáu i'w hemosiynau ddod allan ar yr adegau hynny a choffáu bywyd y baban. Bydd gwasanaethau'n cael eu cynnal ledled Cymru yr wythnos nesaf i helpu i ddod â theuluoedd sydd wedi profi colledion tebyg at ei gilydd.

Fel y dywed y cynnig heddiw, mae'n hanfodol i deuluoedd yr effeithir arnynt gan golli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban allu cael gwasanaethau a chymorth priodol, ac rydym eisoes wedi clywed bod yna anghysondeb o ran mynediad at wasanaethau ledled Cymru. Yng Nghasnewydd, mae gennym grwpiau cymorth rhagorol, ac un o'r rheini yw canolfan gwnsela Beresford ar gyfer rhai sy'n colli baban yn ystod beichiogrwydd. Mae staff y ganolfan yn darparu cymorth am ddim, gwybodaeth a chymorth i deuluoedd ar draws de Cymru. Yn ogystal â thrallod eithafol, gall marwolaeth baban neu golli baban yn ystod beichiogrwydd achosi teimladau o ddicter, pryder, panig a diffyg cwsg. Mae'r teimladau hyn yn rhan normal o alaru, ac mae'r sesiynau'n caniatáu i rieni ollwng stêm. Mae'r ganolfan yn cynnig y gofod diogel y mae mamau a thadau cymaint o'i angen.

Nid yw mynediad uniongyrchol i ofal a chymorth byth yn mynd i leddfu galar rhieni, ond gall eu helpu i ymdopi ar adeg ofnadwy. Siaradais yn ddiweddar â mam a ddywedodd wrthyf ei bod hi'n hynod o ddiolchgar i staff Ysbyty Brenhinol Gwent am y modd yr edrychodd ar ei hôl hi a'i gŵr pan fu farw eu baban. Bydd y sensitifrwydd a'r tosturi diffuant a ddangoswyd i'r ddau riant yn aros gyda'r ddau am byth. Dywedodd mam arall wrthyf nad oedd hi'n gwybod sut y byddai wedi dal ati pe na bai wedi cael plentyn eisoes.

Nid yw dyfnder y teimlad yn lleihau dros amser. Dro'n ôl siaradais â phâr sydd newydd nodi hanner canrif ers geni eu baban marw-anedig. Er na fydd eu baban byth yn mynd yn angof, ni allent fynd ati i lunio coflech tan yn ddiweddar. Nid yw'r rhieni, a aeth ymlaen i gael plant eraill, wedi anghofio eu merch a fu farw. Ar y pryd, dywedwyd wrthynt am ddal ati a dod dros y peth, ond maent bellach yn teimlo'u bod yn gallu siarad am eu galar yr holl flynyddoedd hyn yn ddiweddarach. Rwy'n talu teyrnged i fy nghyd-Aelod, Dai Lloyd, am ei gyfraniad personol heddiw, a oedd mor bwerus.

Nid oes cymaint â hynny o amser er pan nad oedd pobl yn siarad am golli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban. Ceir teuluoedd a rhieni ledled Cymru sydd wedi bod yn galaru'n dawel ers degawdau. Bellach, dylai codi ymwybyddiaeth ddod â rhywfaint o gysur i deuluoedd, gobeithio, er na fydd dim yn gallu dileu'r boen. Mae'n bwysig i famau a thadau gael amser i alaru a pheidio â theimlo bod yn rhaid iddynt ddal ati fel pe na bai dim o'i le. Mae mynediad at lefel ragorol o ofal profedigaeth ar gyfer pob rhiant ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth babi yn hanfodol.

Mae'r elusen marw-enedigaethau a marwolaethau newyddanedigion, Sands, yno i helpu rhieni i alaru ac i'w cefnogi drwy eu hadegau tywyllaf. Caiff grŵp Sands Casnewydd ei redeg gan rieni mewn profedigaeth sy'n anelu i helpu pobl eraill sy'n mynd drwy drasiedïau tebyg i'r rhai a gawsant hwy eu hunain. Dosberthir pecynnau cymorth a blychau cof yn y cyfarfodydd misol, sydd, fel y rhai yng nghanolfan Beresford, yn fan diogel ar gyfer rhieni mewn profedigaeth. Ariannwyd yr ystafell brofedigaeth yn Ysbyty Brenhinol Gwent gan Sands, ac mae'r cyfleuster hwn wedi llwyddo i helpu llawer o deuluoedd. Grŵp hynod o ymroddedig o wirfoddolwyr yw Sands sy'n darparu gwasanaeth amhrisiadwy.

Er bod mwy o gymorth ar gael i deuluoedd sydd wedi cael profedigaeth yn awr nag a oedd o'r blaen, yn sicr mae mwy i'w wneud. Yn Lloegr a'r Alban, mae gweithwyr iechyd proffesiynol a grŵp o elusennau colli babanod wedi datblygu dull newydd o wella gwasanaethau profedigaeth gan ddefnyddio set o safonau gofynnol. Rwy'n gobeithio y gellir mabwysiadu'r rhain yma yng Nghymru. Mae gwella cysondeb a pharhad gofal ar gyfer rhieni yn hollbwysig, ac rwy'n cytuno gyda'r cynnig i fabwysiadu'r llwybr gofal profedigaeth cenedlaethol. Mae hwn yn tanlinellu'r angen i holl staff y GIG sy'n dod i gysylltiad â rhieni mewn profedigaeth gael hyfforddiant gofal profedigaeth ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn rhywbeth y bydd GIG Cymru yn ceisio ei hwyluso.

Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i dderbyn y cynigion a gyflwynwyd yn y cynnig heddiw. Byddant yn gwneud gwahaniaeth mawr i rieni sydd eisoes wedi cael profedigaeth a hefyd y rheini sydd, yn anffodus, yn mynd i ddioddef colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio gweld llawer o'r Aelodau'n sefyll gyda rhieni sy'n galaru i oleuo cannwyll gyda Sands yn y Pierhead yr wythnos nesaf. Mae'n hanfodol fod y rheini sydd angen cymorth bob amser yn gallu cael y gofal gorau posibl y gellir ei gynnig.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 4:27, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Lynne, Adam a David am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Mae'r wythnos nesaf yn Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod a pha well ffordd i'w nodi na thrafod y cymorth y mae Cymru'n ei roi i'r teuluoedd yr effeithir arnynt gan farwolaeth baban?

Mae'n ffaith drist nad yw colli baban yn ystod beichiogrwydd a marwolaeth baban yn ddigwyddiadau anghyffredin. Mae un o bob pedwar beichiogrwydd yn dod i ben drwy gamesgoriad a phob dydd yn y DU mae 15 o fabanod yn marw cyn, yn ystod neu'n fuan ar ôl genedigaeth. Mae hyn yn drychinebus i'r rhieni ac yn anffodus, yn aml ni chânt yr help a'r cymorth sydd ei angen arnynt, ond rydym yn diolch i bawb sy'n rhoi eu hamser a'u cymorth, ac sy'n llwyddo i wneud pethau'n well. Gallwn wneud cymaint mwy i'r cannoedd o deuluoedd yng Nghymru sy'n dioddef yn sgil colli baban. Yn anffodus, nid oes gan Gymru glinig camesgor arbenigol ac mae cleifion Cymru'n ei chael hi'n anodd cael atgyfeiriad i glinig Tommy's yn Coventry.

Yn ddiweddar, cyflwynodd ymgyrchwyr adroddiad 24 tudalen i Lywodraeth Cymru yn manylu ar gamau gweithredu y gellid eu cymryd i wella gwasanaethau ar gyfer teuluoedd sydd wedi dioddef camesgoriad sawl gwaith. Mae'r adroddiad 'Making the Case for Better Miscarriage Care in Wales' yn gwneud 11 o argymhellion, sy'n cynnwys creu clinigau pwrpasol yng Nghymru ar gyfer menywod sydd wedi colli babanod yn ystod beichiogrwydd sawl gwaith.

Rydym yn darparu gofal i rai sy'n dioddef yn sgil colli baban yn ystod beichiogrwydd, ond mae'n rhaid iddo wella, ac weithiau rhoddir taflen i famau a'u hanfon adref ar ôl camesgoriad ac nid oes unrhyw gymorth profedigaeth ar gyfer y fam na'r tad nac unrhyw ofal dilynol. Mae rhai teuluoedd yn dioddef hyn sawl gwaith, ac os ydynt yn ffodus, mae'n bosibl y cânt eu hatgyfeirio at gynecolegydd. Dywedwyd wrth un pâr, ar ôl eu pumed camesgoriad, fod rhai pobl yn anghymharus ac y dylent ystyried mabwysiadu. Felly mae angen mwy o ddealltwriaeth ynglŷn â sut i drin teuluoedd mewn profedigaeth. Er ein bod yn llwyddo mewn sawl man a bod llawer o bobl yn cael y cymorth sydd ei angen, mae rhai'n llithro drwy'r rhwyd.

Yn anffodus, mae llai na hanner y byrddau iechyd lleol yn darparu hyfforddiant gofal profedigaeth gorfodol ar gyfer staff ac mae'r rhai sy'n cynnig hyfforddiant yn darparu llai nag awr ohono bob blwyddyn. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru yn derbyn bod gofal a chymorth profedigaeth tosturiol yn rhan allweddol o'r ddarpariaeth gwasanaethau mamolaeth. Fodd bynnag, nid yw hyn yn digwydd ar lawr gwlad. Ceir amseroedd aros hir iawn ar gyfer cwnsela profedigaeth yng Nghymru ac fel rheol, nid yw'r gwasanaethau hyn yn cael eu cynnig i deuluoedd sy'n dioddef camesgoriad.

Gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth ymateb i'r ddadl hon, yn dangos cefnogaeth i argymhellion yr adroddiad 'Making the Case for Better Miscarriage Care in Wales'. Mae'n rhaid inni wneud yn well ar ran teuluoedd yng Nghymru sy'n dioddef colli baban. Er ein bod yn gwneud llawer iawn, mae mwy y gallem ei wneud. Felly, gadewch i ni nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod drwy wella gwasanaethau ar gyfer teuluoedd yng Nghymru a gweithio gyda'n gilydd. Diolch i'r rheini sydd eisoes yn llwyddo ac yn helpu pobl yng Nghymru i symud ymlaen a chael y cymorth sydd ei angen arnynt. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:31, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol? Vaughan Gething.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau a gyflwynodd y ddadl ar fater pwysig ac emosiynol iawn arall, ond yn arbennig i'r rhai sydd wedi cyfrannu.

Mae marw-enedigaethau, colli baban yn ystod beichiogrwydd a marwolaeth baban yn aml yn ddigwyddiadau nad ydym yn ystyried eu bod yn mynd i ddigwydd i ni. Maent yn bethau y clywn amdanynt yn digwydd i bobl eraill. Ond maent yn digwydd i lawer o bobl yn ein gwlad a byddant yn digwydd eto yn y dyfodol. Rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth y gallwn ac y dylem ei wneud i leihau'r digwyddiadau trallodus hyn.

Pan fydd teuluoedd yn dioddef yn sgil colli baban, rhaid i GIG Cymru sicrhau bod gwasanaethau profedigaeth ar gael i ddarparu'r cymorth a'r amgylchedd priodol er mwyn i deuluoedd dreulio amser gyda'u baban. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gweithio gyda rhwydweithiau mamolaeth a newyddenedigol mewn cydweithrediad â'r byrddau iechyd er mwyn sicrhau arferion gwell a safonedig.

Yng Nghymru, cafodd ein hymateb i farw-enedigaethau ei gryfhau ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnal ymchwiliad undydd i farw-enedigaethau yn 2013, ac fel nifer o'r Aelodau eraill roeddwn ar y pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad hwnnw. Sefydlwyd y rhwydwaith mamolaeth fel argymhelliad a ddeilliodd o hynny. Roedd yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o farw-enedigaethau, a gweithredu mesurau i ganfod babanod mewn perygl a gwella iechyd mamau, sy'n ffactor risg allweddol. Yn ogystal, roedd yn cynnwys gweithredu rhaglen asesu twf ar draws Cymru, gyda hyfforddiant amlbroffesiynol ac ymarferion argyfwng a chanllawiau ar gyfer pan fyddai lleihad yn symudiadau'r ffetws, a phroses adolygu marwolaethau amenedigol a'r gwersi i'w dysgu o hynny.

Ond mae marw-enedigaethau a cholli babanod yn ystod beichiogrwydd yn aml yn bynciau na chaiff eu trafod. Clywsom gan Jayne Bryant am ei hatgof o hynny, ond yn arbennig am brofiad personol Dai Lloyd. Ceir adegau pan fyddwch yn clywed pethau gan yr Aelodau yn y Siambr hon na wyddoch amdanynt ac na fyddech wedi'u disgwyl. Gallai fod wedi digwydd rai degawdau yn ôl, ac er yr holl brofiad meddygol a phrofiad bywyd, rwy'n credu ei fod yn dal yn beth hynod o ddewr i'w rannu yn y Siambr am yr effaith go iawn, ac mae'n gwneud y stori honno sy'n digwydd mewn teuluoedd eraill bob dydd yn y wlad yn fyw iawn ac yn amlygu pam y mae angen inni wella'r hyn y gallwn ei wneud.

Gwrandawodd y fenter beichiogrwydd diogelach a arweinir gan y rhwydwaith mamolaeth ar deuluoedd a oedd yn dymuno i obstetregwyr a bydwragedd dorri drwy'r tawelwch. Gyda chymhlethdod cynyddol mewn beichiogrwydd, gan gynnwys gordewdra, ysmygu a ffactorau iechyd mamol fel diabetes, mae perygl o gynyddu nifer yr achosion o farw-enedigaethau, nid eu lleihau. Dyna pam yr oedd y fenter beichiogrwydd diogelach mor bwysig, gyda'r posteri, y waledi gwybodaeth i gario nodiadau llaw, ac i godi ymwybyddiaeth o bethau fel symudiadau ffetws, ysmygu, bwyta'n dda, a gweld eich bydwraig yn gynnar er mwyn manteisio ar y gofal bydwreigiaeth rhagorol sydd ar gael. Mae gwerthusiad diweddar o'r fenter honno wedi dangos bod menywod a gweithwyr gofal iechyd yn croesawu'r dull, ac mae'r rhwydwaith eisoes yn edrych ar ffyrdd o ledaenu'r neges mewn ffordd gyson.

Sefydlwyd rhwydwaith newyddenedigol Cymru yn hydref 2010 ac mae'n ceisio sicrhau'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer babanod a mamau gyda gofal mwy safonedig. Mae'n dod â gweithwyr iechyd proffesiynol y GIG a phartneriaid o sefydliadau eraill at ei gilydd i oruchwylio gofal newyddenedigol yn erbyn safonau newyddenedigol Cymru gyfan. Mae'r safonau hynny'n nodi y dylai pob uned sicrhau bod mynediad amserol at gymorth seicolegol ar gael i rieni, ac fel y clywsom ar y dechrau, mae gennym beth ffordd i fynd cyn i ni gyrraedd yno ar sail gyson. Yn gynharach eleni, dechreuodd y rhwydweithiau newyddenedigol a mamolaeth eu cynlluniau i uno a dod yn rhwydwaith ar y cyd yn ystod y flwyddyn nesaf, gyda threfniadau arweinyddiaeth a llywodraethu diwygiedig. Bydd yr uno'n sicrhau cyfleoedd i feithrin cysylltiadau agosach ar draws y llwybr ehangach i'r fam a'i baban, ac i ddarparu meysydd newydd ar gyfer gweithio ar y cyd a gwella.

Mae genedigaeth babi ar ffin y gallu i oroesi yn ansicr o ran canlyniad, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda'n GIG a chyda theuluoedd i ddatblygu canllawiau ar gyfer gweithwyr proffesiynol, er mwyn sicrhau bod pob baban yn derbyn asesiad unigoledig. Os rhagwelir y bydd baban yn cael ei eni ar ffin y gallu i oroesi, neu os yw'n digwydd, dylai timau newyddenedigol a mamolaeth sicrhau y gwneir asesiadau clinigol a phenderfyniadau unigoledig am y rheolaeth barhaus a'r cymorth a ddarperir. A rhaid i'r defnydd o'r crebwyll clinigol hwnnw ddigwydd mewn partneriaeth sensitif â theuluoedd, y dylid eu trin â pharch ac urddas.

Mae marwolaeth baban yn brofiad erchyll i bawb sy'n ei wynebu. Mae menywod a theuluoedd yn haeddu cymorth personol a gwybodaeth yn dilyn marw-enedigaeth a marwolaeth baban. Gwnaed gwaith ar y cyd eisoes gydag asiantaethau trydydd sector megis yr elusen marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol, Sands, a 2 Wish Upon a Star, i helpu i ddarparu hyfforddiant, gwybodaeth i deuluoedd, ac i ddatblygu amgylcheddau gwell, ac i roi cyfleoedd i ddatblygu atgofion ar gyfer y dyfodol.

Y pwynt cadarnhaol y dylid ei gymryd yw bod gennym ragoriaeth yn ein gwasanaethau yma yng Nghymru eisoes. Efallai y bydd yr Aelodau'n cofio Laura Wyatt, sy'n fydwraig yng Nghaerdydd a'r Fro. Fe'i gwnaed hi'n fydwraig y flwyddyn y DU yng Ngwobrau diweddar Coleg Brenhinol y Bydwragedd, a daeth y wobr honno wedi iddi gael ei henwebu gan rieni mewn profedigaeth, a'r cymorth a roddodd iddynt a'i chefnogaeth wedyn wrth iddynt ddod yn rhieni, dyna oedd pwynt yr enwebiad—cydnabod y gwahaniaeth a wnaeth ei gwaith. Mae hi'n rhan o is-grŵp profedigaeth y rhwydwaith mamolaeth, i helpu i ddatblygu'r safonau uwch ac i ddatblygu amgylcheddau gwell ar gyfer rhieni.

Yn y gwasanaethau mamolaeth bellach, mae gan bob bwrdd iechyd arweinydd profedigaeth dynodedig i gefnogi teuluoedd a'u galluogi i dreulio amser gyda'u babanod. Felly, rwy'n croesawu safonau'r DU ar gyfer gofal profedigaeth a fydd yn cael eu lansio yr wythnos nesaf. Mae'r rhwydwaith mamolaeth wedi cysylltu gyda Sands drwy gydol y broses o ddatblygu a threialu'r llwybr gofal a'r safonau. Mae'r rhwydwaith mamolaeth wedi mabwysiadu'r rhain o fewn y safonau profedigaeth newydd ar gyfer Cymru gyfan, felly mae gan yr holl wasanaethau mamolaeth lwybr profedigaeth ar waith, a bydd yn adolygu'r rhain yn dilyn gwerthusiad o gynllun peilot y DU.

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yn gyfle inni gofio'r babanod sydd wedi marw, a dylai ein helpu i dorri drwy'r tawelwch a dechrau sgyrsiau am y mater pwysig hwn i wneud yn siŵr nad yr hyn y mae Dai Lloyd yn ei gofio am bobl yn fwriadol yn osgoi cael sgwrs yw'r ffordd y byddwn yn gweithio ac yn ymddwyn yn y dyfodol. Bydd darparu gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol diogel ac effeithiol ar gyfer menywod a theuluoedd yn helpu i gynorthwyo pob plentyn a phob teulu i gael y dechrau gorau posibl. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod teuluoedd sy'n dioddef colli baban yn cael y gofal a'r cymorth gorau posibl gan ein gwasanaethau iechyd yma yng Nghymru, ac rwy'n hapus hefyd i ymrwymo i roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau yn y dyfodol ar y cynnydd a wnawn yn sgil pasio'r cynnig hwn.  

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:38, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl?

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Fe ymatebaf i'r ddadl hon ar ran fy nghyd-Aelod, Adam Price, sy'n un o'r enwau a'i cyflwynodd. Hoffwn ddechrau, wrth gwrs, drwy ddiolch i bob Aelod am gymryd rhan yn yr hyn a fu, rwy'n credu, yn ddadl deimladwy iawn. Nid yw bob amser yn briodol i wleidyddion ddod â'n profiadau personol i ddylanwadu ar ein gwleidyddiaeth, ond weithiau mae'n briodol iawn inni wneud hynny, ac roedd hynny'n arbennig o wir heddiw. Cyn imi ymateb i unrhyw beth a ddywedodd yr Aelodau eraill, hoffwn ddiolch i Dai Lloyd am ei gyfraniad. Roedd yn ysgytwol iawn, ac yn ysbrydoli hefyd yn fy marn i. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am hynny, Dai.

Gwnaeth Lynne achos pwerus iawn dros wella gwasanaethau, a nododd yr anghysondeb y mae teuluoedd yn gorfod ei ddioddef yn rhy aml. Ond mae'r Aelodau ar draws y Siambr sydd wedi cymryd rhan hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith bod rhai arferion da iawn yn digwydd, a'r peth pwysig, rwy'n meddwl, yw dysgu o hynny. Mae sylwadau Jayne Bryant am rai o'r gwasanaethau ardderchog a ddarperir gan y trydydd sector, rhai o'r gwasanaethau sy'n cael eu harwain gan y rhieni, yn werthfawr iawn ac yn bwysig iawn.

Soniodd Lynne am y distawrwydd a geir yn aml ynghylch y materion hyn, ac mae Aelodau eraill wedi sôn am hynny. Gall fod yn anodd iawn. Yn aml er enghraifft, caiff camesgoriad ei drin fel pe na bai'n golled go iawn, fel pe na bai'n brofedigaeth mewn gwirionedd. Ond wrth gwrs, i'r rhieni hynny, mae'n blentyn go iawn, wrth gwrs ei fod. Credaf fod yr Aelodau wedi tynnu sylw hefyd—Lynne yn arbennig—at yr angen i ddarparu gwasanaethau ar gyfer tadau yn ogystal ag ar gyfer mamau. Yn rhy aml o hyd, ni chynigir unrhyw gefnogaeth profedigaeth, ond pan gaiff ei gynnig, i'r fam yn unig y caiff ei gynnig yn rhy aml fel pe na bai'r tad wedi dioddef colled, ac mae'n bwysig iawn inni sicrhau bod y golled i'r ddau riant ac i aelodau o'r teulu yn wir, ac fel y soniodd eraill, i frodyr a chwiorydd yr effeithir arnynt hefyd yn sgil colli baban, yn cael ei chydnabod.

Rwy'n ddiolchgar i Caroline am wneud y pwyntiau am yr angen am wasanaethau arbenigol ar gyfer menywod sy'n dioddef sawl camesgoriad. Mae'r syniad y gallwch ddweud wrth bâr, 'Wel, mae rhyw fath o anghymarusrwydd yma, ac ni fyddwch chi byth yn rhieni ac mae'n rhaid i chi dderbyn hynny' yn rhywbeth y credaf na fyddai neb ohonom am ei oddef yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain. Credaf hefyd fod y pwyntiau ynglŷn â hyfforddiant pellach a gwell ar gyfer staff yn rhai da iawn.

Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb ac yn gwerthfawrogi'r hyn a nododd o ran y gwaith sy'n cael ei wneud, ond rwy'n credu bod y dystiolaeth a gyflwynwyd heddiw, y dystiolaeth gan yr elusennau a oedd yn rhan o'r gynghrair ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod—ac yn fyr, hoffwn ddiolch i'r sefydliadau hynny am ddod at ei gilydd mor effeithiol i helpu i godi'r materion pwysig a hynod o anodd hyn, ac rwy'n sicr yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn rhai o'r digwyddiadau coffáu hynny gyda theuluoedd a fydd yn digwydd yr wythnos nesaf fel y soniodd Jayne a Lynne ac eraill—.

Ond rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno nad oes lle i laesu dwylo yma. Rwy'n falch iawn o'i glywed yn dweud wrthym y bydd gan bob gwasanaeth, drwy'r rhwydweithiau mamolaeth, lwybr profedigaeth dynodedig bellach. Nid oeddwn yn hollol glir o'i sylwadau am ba hyd y bu'r llwybrau hyn ar waith. Os yw'n newydd iawn, credaf y gallwn edrych ymlaen, fel y dywedodd, at glywed y wybodaeth ddiweddaraf am ba mor dda y caiff y gwasanaethau hynny eu darparu. Ond rydym yn gwybod y gall fod bwlch rhwng polisi cenedlaethol a darpariaeth ar lawr gwlad, ac rwy'n siŵr na fydd yr un ohonom yn y Siambr hon yn goddef bwlch o'r fath mewn perthynas â mater mor sensitif.

Ni ddylid gadael unrhyw fam, unrhyw dad sy'n colli plentyn yng Nghymru i ymdopi â hynny eu hunain. A gwyddom fod hynny'n dal i ddigwydd yn awr. Bydd llawer ohonom yn y Siambr wedi cael profiad teuluol o hyn. Credaf ein bod yn tueddu weithiau i feddwl am golli baban fel rhywbeth anghyffredin. Fel y mae Lynne ac eraill wedi nodi, nid yw hynny'n wir mewn gwirionedd, a'r dyddiau cyntaf hynny yw'r amser mwyaf peryglus i unrhyw blentyn yng Nghymru.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ailadrodd fy niolch i bawb sydd wedi cyfrannu, diolch i bawb sydd wedi siarad am eu profiadau, yn enwedig rhieni a theuluoedd sydd wedi rhannu'r heriau a wynebwyd ganddynt gyda ni, diolch yn fawr i'r holl bobl wych sy'n darparu gwasanaethau rhagorol, a dweud fy mod yn edrych ymlaen at gael y wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â'r modd y caiff gwasanaethau cwnsela seicolegol priodol eu darparu ar gyfer teuluoedd ym mhobman yng Nghymru sy'n cael profiad o hyn, os mai dyna maent ei eisiau. Os gadewir un teulu i ymdopi â'r profiad hwn ar eu pen eu hunain yn ein gwasanaethau iechyd yng Nghymru, bydd yn un teulu'n ormod, ac ni ellir goddef hynny. Diolch yn fawr.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:43, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.