Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 3 Hydref 2018.
Lywydd, rhaid imi gyfaddef bod gennyf hanes o wrthsefyll canlyniadau refferenda pan deimlaf fod pobl wedi gwneud camgymeriad. Ymunais â Phlaid Cymru yn 1979 ar ôl i'r refferendwm ar ddatganoli gael ei cholli. Cymerodd 20 mlynedd inni wrthdroi canlyniad y refferendwm hwnnw. Nid wyf yn meddwl bod llawer o bobl—. [Torri ar draws.] Fe gymerodd 20 mlynedd, rwy'n rhoi hynny i David Rowlands. Cymerodd 20 mlynedd, ond ni allwn aros 20 mlynedd i edrych eto ar ganlyniad y refferendwm hwn. Mae Cymru ar fin cael ei llusgo dros glogwyn Brexit 'dim bargen' ac mae'r risgiau a wynebir gan y cymunedau gwledig a gynrychiolaf yng nghanolbarth a gorllewin Cymru yn hysbys iawn. Mae dyletswydd absoliwt gan y rheini ohonom sy'n gwybod y byddai hyn yn drychineb i'w wrthsefyll a rhoi realiti'r hyn y byddwn yn ei wynebu i bobl Cymru, os a phan fyddwn yn gadael, a beth fydd y cytundeb mewn gwirionedd.
Roedd y refferendwm gwreiddiol yn ddiffygiol iawn. Gwahoddwyd pobl i bleidleisio o blaid mwy o reolaeth. Yr hyn a welsom yn lle hynny yw cipio pŵer gan Lywodraeth Dorïaidd wrth iddi lusgo pwerau oddi ar Gymru yn ôl i San Steffan tra bo'r Llywodraeth Lafur yn sefyll o'r neilltu gan wneud ystumiau gwasgu dwylo. A gwahoddwyd pobl i bleidleisio dros biliynau o bunnoedd yn ychwanegol ar gyfer y GIG, ymhlith pethau eraill. Roedd yna bob math o bethau yr oeddem yn mynd i wario'r arian hwn arnynt—y ffermwyr, roeddem yn mynd i'w wario ar y gwasanaeth iechyd. Mawredd, dyma oedd y goeden arian hud onide? Yn lle hynny, fel y nododd Adam Price a Lynne Neagle ac eraill eisoes, mae Brexit eisoes yn costio miliynau o bunnoedd yr wythnos i ni a bydd biliynau o bunnoedd yn y Bil ysgaru, ac mae'r effaith bosibl ar economi Cymru yn hirdymor yn enbyd.
Bydd gan bob un a bleidleisiodd dros Brexit yng Nghymru eu rhesymau eu hunain dros wneud hynny, ac mae gennyf lawer o gydymdeimlad â'r hyn a ddywedodd Leanne Wood ynglŷn â beth fyddai rhai o'r rhesymau hynny—gwrthwynebiad i sefydliad y teimlai pobl ei fod yn eu hanwybyddu. Cofiaf ymgyrchu gyda Lee Waters yn Llanelli a dau ddyn ifanc yn dweud wrthyf, 'Ni allaf fynd yn rhan o hyn o gwbl. Saeson crand yn gweiddi ar ei gilydd yw hyn. Nid yw'n teimlo fel pe bai ganddo unrhyw beth i'w wneud â mi.' Efallai fod hynny'n wir, ond rwy'n argyhoeddedig nad oedd yr un o'r bobl a bleidleisiodd dros Brexit wedi pleidleisio dros brinder cyffuriau, dros ddiweithdra, dros ffin galed yng Ngogledd Iwerddon, dros ofynion fisa i ymweld â'n cymdogion agosaf a bygythiadau i ddiogelwch amgylcheddol a'n hawliau dynol. Ac mae'r rhain oll yn risgiau go iawn yn sgil Brexit caled 'dim bargen'.
Rwyf am gyfeirio heddiw, Lywydd, at y bobl na allent bleidleisio yn y refferendwm—tua 71,500 o bobl ifanc sydd wedi cyrraedd oedran pleidleisio yng Nghymru ers inni bleidleisio dros adael. Nid yw hynny ymhell o gyrraedd y mwyafrif cenedlaethol yng Nghymru dros Brexit. Nawr, nid wyf am awgrymu am eiliad y byddai'r holl bobl ifanc wedi pleidleisio dros aros, ond gwyddom fod pobl ifanc yn llawer llai tebygol o gefnogi Brexit, ac mae'n amlwg y bydd effaith Cymru'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn enwedig os ydym yn gwneud hynny heb gytundeb, yn llawer dyfnach ar fywydau'r bobl ifanc hynny nag ar fywydau'r rheini ohonom sydd eisoes wedi elwa o ddegawdau o aelodaeth o'r UE, ac a allai fod yn dod i ddiwedd ein bywydau gwaith, rai ohonom, bellach.
Ceir tystiolaeth fod llawer o ddicter ymhlith pobl ifanc ynglŷn â Brexit. Gwelais hyn pan oeddwn yn arwain elusen gwaith ieuenctid cenedlaethol. Mae gan y bobl ifanc hyn hawl i fod yn ddig. Mae ein cenhedlaeth ni'n mentro'n anwybodus â'u dyfodol, ac mae ganddynt hawl i gael llais yn y penderfyniad hwnnw ynglŷn â'r dyfodol, ac i gymryd rhan mewn bleidlais i'r bobl ar y fargen sy'n cael ei chynnig mewn gwirionedd.
Hoffwn gyfeirio'n fyr at welliant y Llywodraeth, sy'n ein gwahodd i edrych ar yr etholiad cyffredinol fel ffordd o ddatrys hyn. Wel, fel y dywedodd Lynne Neagle eisoes, ni allaf yn fy myw weld sut y byddai hynny'n gweithio. Nid oes angen ailadrodd y rhaniadau a'r anhrefn yn safbwynt y Blaid Geidwadol ar Brexit, ond mae arnaf ofn nad yw Llafur yn San Steffan fawr gwell. Rwy'n dilyn gwleidyddiaeth yn eithaf agos, ac nid oes syniad gennyf beth fyddai Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn ei wneud ynglŷn â Brexit. A fyddent yn ail-negodi? A fyddent yn cynnal refferendwm heb opsiwn i aros? A fyddent yn cynnal refferendwm gydag opsiwn posibl i aros pe bai'r fargen yn cael ei gwrthod? Rwy'n amau nad wyf yn gwybod am nad ydynt hwythau'n gwybod chwaith, ac rwy'n amau bod hynny'n dibynnu ar ba un a ydych yn credu Jeremy Corbyn, Keir Starmer neu unrhyw un o'r bobl eraill a allai fod yn siarad. Yn anffodus, ni all etholiad cyffredinol—a hoffwn pe na bai hyn yn wir—ein cael ni allan o'r llanastr hwn, fel y dywedodd Lynne Neagle, ac rwy'n tybio bod llawer o'r Aelodau eraill ar y meinciau Llafur yn gwybod hyn.
Mae angen pleidlais y bobl pan fydd hi'n hysbys beth yw'r cytundeb, ac mae angen i bob un ohonom yn y Siambr hon a thu hwnt sy'n credu mai bod yn aelod o'r teulu Ewropeaidd yw'r dyfodol i Gymru ymgyrchu yn awr dros y bleidlais honno i'r bobl, fel y gall pobl bleidleisio ar yr hyn sy'n cael ei gynnig go iawn ac nid y freuddwyd gwrach a fwydwyd iddynt yn 2016.