Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 3 Hydref 2018.
Lywydd, mewn gwleidyddiaeth, yn aml ceir llwybr hawdd a llwybr anodd. Pe bai'n wir mai'r llwybr hawdd yw'r ffordd gywir i fynd bob amser, byddai'r gwaith a wnawn yma yn syml. Yn wir, prin y byddai ein hangen o gwbl. Ond yn amlach na pheidio, y gwir amdani yw bod y llwybr caled hefyd yn ffordd gywir i fynd. Mewn oes pan ellir ail-drydaru celwydd 30,000 o weithiau cyn i'r gwir danio ei gliniadur, mae hynny'n fwy gwir nag erioed. Felly, mae yna rai pethau anodd sy'n rhaid inni fod yn ymwybodol ohonynt yn y Siambr hon.
Yn gyntaf, pleidleisiodd Cymru dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n derbyn hynny ac rwy'n parchu hynny. Yn ail, nid yw'r cynnig a wnaed i bobl Cymru adeg refferendwm 2016 byth yn mynd i gael ei wireddu. Yn hytrach na bod gadael 'yn costio dim' a'r 'peth hawsaf erioed', mae'r bil ysgariad yn mynd i gostio o leiaf £50 biliwn i'r DU, a byddwn yn dal i'w dalu yn 2064. A hynny cyn inni hyd yn oed ystyried y gost yn awr mewn prisiau uwch a thwf isel, hyd yn oed cyn inni adael—cost y mae'r Ganolfan Ddiwygio Ewropeaidd yn amcangyfrif ei bod yn £500 miliwn yr wythnos.
Y drydedd ffaith sy'n rhaid inni ei derbyn yw nad oes mwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin dros unrhyw fath o Brexit—o blaid Brexit Theresa May, o blaid Brexit Jacob Rees-Mogg, nac o blaid unrhyw fath o Brexit dall chwaith. Ond mae gwendid y Prif Weinidog a natur ymosodol y Breximistiaid yn y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd—cefndryd gwleidyddol Aelodau UKIP yn y Siambr hon—yn golygu y cawn y math gwaethaf oll o Brexit oni bai ein bod yn dod o hyd i ffordd allan o'r llanastr hwn, sef Brexit 'dim bargen' a fyddai'n dinistrio ein diwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru ac yn difa ein gwasanaeth iechyd; Brexit 'dim bargen' a fydd yn anrheithio ein sectorau modurol, awyrofod ac amaethyddol; Brexit 'dim bargen' a fydd yn difa swyddi mewn cwmnïau fel ArvinMeritor yng Nghwmbrân sy'n dibynnu ar weithgynhyrchu mewn union bryd. Eu swyddi, eu morgeisi, dyfodol eu plant hwy sydd yn y fantol.
Felly, y bedwaredd ffaith yw bod arnom angen ffordd allan o'r llanastr hwn, ac mae hynny'n golygu y bydd yn rhaid i'r pleidiau gydweithredu. Mae gwelliant fy mhlaid yn dweud mai'r ffordd allan yw etholiad cyffredinol. Byddaf yn pleidleisio drosto, ond byddaf yn gwneud hynny gan wybod mai'r bumed ffaith yw nad oes fawr o debygrwydd y bydd yn digwydd. A daw hynny â mi at fy chweched ffaith, a'r olaf, mai pleidlais y bobl yw'r un ffordd sydd gennym o ymuno i'n cael ni allan. Mae'n bryd inni roi diwedd ar ymffrost gwleidyddiaeth plaid a dangos arweiniad, hyd yn oed os yw'n anodd, a chydnabod y ffaith honno.
Ni fydd pleidlais y bobl yn ailadrodd refferendwm 2016, ond yn hytrach bydd yn bleidlais ar y cytundeb ei hun. Cafodd cefnogwyr Brexit hawl yn 2016 i negodi i ni adael, ond dylai fod gennym ni hawl i ddweud wrthynt nad yw'r hyn y maent yn ei gynnig yn ddigon da o gymharu â'r hyn sydd gennym heddiw. Nid oes arnaf ofn y ddadl honno, yn wahanol i gefnogwyr Brexit, mae'n ymddangos.