Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 9 Hydref 2018.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Prif Weinidog. Mae ffigurau Llywodraeth Cymru yn dangos bod allforion o Gymru i'r Undeb Ewropeaidd, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben yn 2018, wedi cynyddu gan 6.8 y cant, o'u cymharu a'r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, cynyddodd allforio i wledydd nad ydynt yn yr UE gan 0.3 y cant yn unig. O ystyried methiant Llywodraeth Cymru i arallgyfeirio ei chyrchfannau allforio, pa gamau wnewch chi eu cymryd i fanteisio ar y cyfleoedd masnachu a gyflwynir gan Brexit? Ac a wnewch chi ddilyn argymhelliad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a phenodi Gweinidog masnach i werthu Cymru i'r byd, os gwelwch yn dda?