Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 9 Hydref 2018.
Wel, nid wyf i wedi fy argyhoeddi eto ynghylch pa gyfleoedd masnach sy'n bodoli ar ôl Brexit. Er enghraifft, os edrychwch chi ar y bum brif farchnad allforio sydd gennym ni, mae'r Almaen ar y brig, mae Ffrainc yn ail, mae UDA yn drydydd, Iwerddon yn bedwerydd, yr Iseldiroedd yn bumed. Nawr, mae pedair o'r gwledydd hynny yn yr UE. Os edrychwn ni ymhellach i lawr y 10 uchaf, yna, gwelwn sefyllfa lle ceir wyth sydd naill ai yn yr UE neu'r undeb tollau. Nawr, yn amlwg, dyma ein prif farchnadoedd allforio. Maen nhw'n farchnadoedd y mae'n rhaid i ni geisio eu diogelu gan geisio ar yr un pryd ehangu ein marchnadoedd mewn mannau eraill, a dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni wedi agor, ac wrthi'n agor, mwy o swyddfeydd ledled y byd, er mwyn codi proffil Cymru dramor.