Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 9 Hydref 2018.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, bu llawer o gyhoeddusrwydd yn ddiweddar ynghylch y mater o labelu bwyd. Fel y byddwch yn ymwybodol, bu rhai achosion trasig lle bu pobl farw, o bosibl oherwydd diffyg gwybodaeth ar label cynnyrch bwyd a fwytawyd ganddynt. A ydych chi'n cytuno y dylai fod labelu eglur fel mater o drefn ar gyfer cynhyrchion bwyd yng Nghymru fel bod yr holl wybodaeth berthnasol ar gael yn rhwydd?