1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 9 Hydref 2018.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, bu llawer o gyhoeddusrwydd yn ddiweddar ynghylch y mater o labelu bwyd. Fel y byddwch yn ymwybodol, bu rhai achosion trasig lle bu pobl farw, o bosibl oherwydd diffyg gwybodaeth ar label cynnyrch bwyd a fwytawyd ganddynt. A ydych chi'n cytuno y dylai fod labelu eglur fel mater o drefn ar gyfer cynhyrchion bwyd yng Nghymru fel bod yr holl wybodaeth berthnasol ar gael yn rhwydd?
Ydw.
Diolch am yr ateb pendant iawn yna ac, wrth gwrs, rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Nawr, mater cysylltiedig arall yw'r un yn ymwneud â chig halal yn mynd i'r gadwyn fwyd prif ffrwd. Fel y gwyddoch, mae cig halal, ac mae tua 20 y cant ohono yn dod o anifeiliaid nad ydynt yn cael eu llonyddu cyn eu lladd, yn ddiwydiant sy'n tyfu yn y DU. Un mater sy'n gysylltiedig â hyn yw y caniateir cig halal am resymau crefyddol yn unig, fel y dylai'r rhai sy'n ei fwyta gael eu cyfyngu i'r rheini sydd â chred grefyddol eu bod angen bwyta cig halal. Mewn geiriau eraill, dylid cyfyngu'r rhai sy'n bwyta cig halal i Fwslimiaid gweithredol. Ond gwyddom, fwyfwy, bod manwerthwyr bwyd yn cynnig bwyd halal yn rhan arferol o'u bwydlen. Weithiau, mae'n anodd hyd yn oed gweld bod bwyd halal wedi ei labelu felly. Felly, gallech chi fynd i siop tecawê neu fwyty a chanfod eich bod chi'n bwyta bwyd y byddwch yn darganfod yn ddiweddarach sy'n halal, nad oedd wedi ei labelu'n eglur fel halal ar y fwydlen. A oes achos bod angen i ni fabwysiadu mesurau llymach o lawer dros labelu bwyd yma yng Nghymru fel nad yw pobl nad ydynt yn Fwslimiaid gweithredol yn bwyta bwyd halal yn ddiarwybod iddynt?
Wel, rwy'n credu bod pobl yn deall ac yn gallu gwneud dewis. Beth ddylem ni ei gael nesaf felly? A ddylem ni fynnu bod bwyd yn cael ei labelu fel bwyd cosher er mwyn i bobl nad ydynt yn Iddewon osgoi bwyta'r bwyd hwnnw? A ddylem ni labelu bwyd, er enghraifft, fel ei fod yn dderbyniol i'r rhai sy'n Hindwiaid, i'r rhai sy'n Fwdhyddion? Wel, oes, mae angen i ni labelu bwyd mor gywir â phosibl, ond yn sicr nid wyf i o'r farn y dylai bwyd halal, rywsut, gael ei dargedu'n benodol o'i gymharu ag arferion deietegol eraill a chrefyddau eraill. Os ydych chi'n mynd i awgrymu hynny am Fwslimiaid, a ydych chi'n mynd i awgrymu'r un peth am Iddewon?
Rwy'n derbyn y pwynt yr ydych chi'n ei godi, Prif Weinidog, ond nid oes unrhyw dystiolaeth bod bwyd cosher yn mynd i'r farchnad fwyd prif ffrwd, ond mae rhywfaint o dystiolaeth bod hynny'n digwydd gyda bwyd halal. Felly, dyna'r rheswm y codais y mater penodol o fwyd halal. Nawr, nid wyf i'n credu y dylem ni fod yn tanbwysleisio'r mater hwn. Rwy'n cofio y cawsom ni sgandal dros gig ceffyl ychydig flynyddoedd yn ôl, a chredaf ei bod yn bosibl y gallai'r diffyg labelu hwn o fwyd halal fod, os unrhyw beth, hyd yn oed yn fwy o sgandal.
Nawr, mae eich Llywodraeth wedi sôn am—[Torri ar draws.] Mae eich Llywodraeth wedi sôn am les anifeiliaid yn y gorffennol, ac i fod yn deg, rydych chi wedi gwneud pethau ar y trywydd hwnnw. Mae Cymdeithas Milfeddygon Prydain, yr RSPCA a chyrff eraill wedi galw am derfyn ar ladd anifeiliaid yn y DU heb eu llonyddu, y maen nhw'n ei ddweud sy'n greulon ac yn boenus i'r anifeiliaid sy'n cael eu lladd. Bu cryn ymchwil academaidd yn cefnogi'r safbwynt hwn hefyd. Nawr, mae eisoes wedi ei wahardd yn Denmarc, Sweden, Gwlad yr Iâ a Seland Newydd. Polisi UKIP erbyn hyn yw gwahardd yr arfer o ladd heb lonyddu yn llwyr yma yn y DU. A fyddech chi'n cytuno mai dyna'r polisi gorau mewn gwirionedd er budd lles anifeiliaid yng Nghymru?
Na, ac rwy'n gresynu'r ffaith ei fod ef, unwaith eto, yn targedu un grŵp crefyddol nad yw'n ei hoffi. Mae'n dechrau gyda Mwslimiaid, bydd yn symud ymlaen at yr Iddewon, bydd yn symud ymlaen at Hindŵiaid, yn symud ymlaen at Fwdhyddion, gan nad ydynt yn union fel ef ei hun, a diolch byth nad ydyn nhw—a allwch chi ddychmygu byd o Gareth Bennetts, y math o fyd y byddai hwnnw?
Y gwir amdani yw ein bod ni'n gymdeithas agored a goddefgar. Mae gennym ni yng Nghaerdydd un o'r mosgiau hynaf ym Mhrydain. Mae'r boblogaeth sydd gennym ni yma o bobl sy'n Fwslimiaid wedi eu hintegreiddio yn ein cymdeithas ers degawdau lawer iawn ac yn cael eu parchu am y cyfraniad y maen nhw wedi ei wneud at fywyd Cymru—cyfraniad, mae'n rhaid i mi ddweud, sydd yn mynd ymhell y tu hwnt i'r cyfraniad y mae UKIP na'r Aelod wedi ei wneud.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, roeddwn i gyda Phrif Weinidog yr Alban ddoe. Mae unrhyw un sy'n ymweld â'r Alban a Llywodraeth yr Alban y dyddiau hyn yn dod oddi yno gyda synnwyr o wlad sy'n hyderus, Llywodraeth sy'n effeithiol ac arweinydd sy'n cael ei pharchu yn yr Alban a thu hwnt. Ddoe, pan wnaeth Prif Weinidog yr Alban alw am i unrhyw fesur Brexit wrth gefn a fyddai'n rhoi statws marchnad sengl arbennig i Ogledd Iwerddon gael ei ymestyn i'r Alban hefyd, fe'i adroddwyd fel newyddion mawr gan gyfryngau'r DU gyfan. A ydych chi fel Prif Weinidog Cymru yn adleisio'r alwad honno ar gyfer Cymru, a phan fyddwch chi'n trafod y materion hyn, pam mae hi'n ymddangos nad oes neb yn cymryd unrhyw sylw?
Nid wyf i'n cytuno â'r hyn y mae Prif Weinidog yr Alban wedi ei ddweud. Rwy'n credu mai'r cyfan yr ydych chi'n ei wneud yw symud y broblem o'r ffin yn Iwerddon i'r ffin rhwng yr Alban a Lloegr. Mae'r problem yn cael ei thrawsblannu wedyn.
Y mater gwirioneddol yw mae'n rhaid i ni ei gofio yma, yw ei bod hi'n bwysig bod y DU a Gweriniaeth Iwerddon yn yr un undeb tollau ac bod ganddyn nhw yr un trefniadau o ran y farchnad sengl.
Prif Weinidog, byddai mwy o hygrededd i'ch honiad eich bod yn llais cryf dros Gymru pe na byddai am y ffaith eich bod chi'n gadael swydd y Prif Weinidog ar yr adeg fwyaf allweddol hon yn ein hanes, ac o fewn mater o ddiwrnodau o gyhoeddi eich bwriad o wneud hynny, ildiodd eich Llywodraeth, dan arweiniad un o'ch darpar olynwyr, mewn gwrthgyferbyniad llwyr â'r argyhoeddiad a ddangoswyd gan Lywodraeth yr Alban, i San Steffan o ran eich Deddf parhad eich hun. Nawr, o gofio eich bod chi'n cefnogi Llywodraeth yr Alban yn ei hachos yn y Goruchaf Lys, a allwch chi gadarnhau y bydd unrhyw gynnig i ddiddymu eich Deddf parhad yn cael ei ohirio tan i ddyfarniad gael ei wneud, ac os bydd y llys yn canfod o blaid Llywodraeth yr Alban, yn hytrach na dileu'r Ddeddf, a wnewch chi ddatgan bod eich cytundeb dirmygadwy braidd gyda Llywodraeth Dorïaidd San Steffan ar ben?
Y gwir am y sefyllfa yw hyn: mae'n wireb ym Mhlaid Cymru rywsut bod pobl Cymru yn gamsyniol gan nad ydynt yn pleidleisio dros Blaid Cymru a drosto ef fel Prif Weinidog. Y gwir amdani yw eu bod wedi rhoi fy mhlaid i mewn grym ym mhob etholiad yn y Cynulliad hwn, a'r gwir amdani yw ein bod ni'n eistedd yn y fan yma fel Llywodraeth dan arweiniad Llafur, gydag eraill o fewn y Llywodraeth hon, wrth gwrs.
Na, nid wyf yn cytuno â'r hyn y mae'r Alban wedi ei wneud. Rydym ni wedi dod i delerau gyda Llywodraeth y DU. Rydym ni'n disgwyl i'r telerau hynny gael eu bodloni. Beth sy'n digwydd os bydd yr Albanwyr yn colli'r frwydr yn y Goruchaf Lys? Does ganddyn nhw ddim. Does ganddyn nhw ddim. Mae gennym ni gytundeb. Ni fydd gan yr Albanwyr unrhyw gytundeb o gwbl, ac mae hynny, yn ein barn ni, yn rhagolwg llawer gwell i ni cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn, yn hytrach na chwarae blacjac, i bob pwrpas, gyda dyfodol yr undeb.
Mae Prif Weinidog yr Alban yn achub y blaen arnoch chi. Mae hyd yn oed Gogledd Iwerddon, nad oes ganddynt Brif Weinidog na Llywodraeth na Chynulliad, yn achub y blaen arnoch chi. Mae'n llai o syndod, efallai, bod Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon yn rhagori arnoch chi; wedi'r cyfan, maen nhw'n wladwriaeth annibynnol, ac efallai fod gwers i ni yn y fan honno, Prif Weinidog. Roeddwn i'n falch iawn bod diplomyddion Iwerddon wedi gallu cadarnhau i mi dros y penwythnos y byddan nhw nawr yn ailagor swyddfa conswl Iwerddon yma yng Nghaerdydd. A allwch chi gadarnhau, Prif Weinidog, bod eich Llywodraeth—. Mae'n chwerthin. Mae'n credu ei fod yn ddoniol, ond mae hwn yn ddatblygiad pwysig o ran ein partner allweddol yn y fan yma. A allwch chi fel Prif Weinidog gadarnhau y byddwch yn ymateb trwy agor swyddfa i Gymru yn Nulyn, ac, i fod yn eglur, nid wyf i'n golygu desg wedi ei chuddio yn un o gorneli llysgenhadaeth Prydain?
Ac yn olaf, Prif Weinidog, o gofio bod economi Iwerddon wedi tyfu tua thair gwaith yn gyflymach na gweddill Ewrop y llynedd, a phum gwaith yn gyflymach na Chymru, a ydych chi'n credu bod y Gwyddelod yn edrych yn eiddigeddus ar y llwyddiant economaidd y mae Cymru o fewn yr undeb mor amlwg wedi ei fod ac yn gresynu'n fawr y drychineb economaidd y bu annibyniaeth iddyn nhw?
Yn gyntaf oll, mae gennym ni swyddfa yn Nulyn. Byddwn yn disgwyl iddo wybod hynny. Ydy, mae hi yn y llysgenhadaeth, ond mae'r Albanwyr yno hefyd. Y pwynt yw bod yr Albanwyr hefyd mewn llysgenadaethau ledled y byd, fel yr ydym ninnau. Felly, nid oes gan yr Albanwyr unrhyw broblem gyda bod y tu mewn i lysgenadaethau Prydain pan fo'n gyfleus iddyn nhw. Nid wyf i'n gweld problem gyda hynny, cyn belled ag y bo'r presenoldeb yno. Mae'r swyddfa conswl yn dod i Gaerdydd gan fy mod i wedi parhau i wthio amdano. Rwyf i wedi ei godi ym mhob un cyfarfod yr wyf i wedi ei gael gyda swyddogion Llywodraeth Iwerddon, gyda'r Taoiseach ei hun, a chyda Gweinidogion Llywodraeth Iwerddon, a dyna pam mae wedi dychwelyd i Gaerdydd, ar ôl yr holl waith a wneuthum i'w perswadio i wneud hynny.
Yn drydydd, ydy, mae economi Iwerddon wedi tyfu, ond o sylfaen a oedd yn eithriadol o isel yn 2008. Roedd Iwerddon ar ei gliniau yn 2008, roedd yr economi ar chwâl, roedd pobl mewn dyled enfawr, roedd y banciau mewn sefyllfa lle'r oeddent yn mynd i'r wal. Roedden nhw mewn sefyllfa lle'r oedd y farchnad dai wedi chwalu. Ydy, mae pethau wedi gwella, ond rwy'n adnabod Iwerddon yn dda dros ben: mae'n gwneud yn dda yn economaidd, mae ganddi broffil uchel o gwmpas y byd oherwydd ei chymuned alltud, ond nid oes ganddi wasanaeth iechyd. Os ydych chi eisiau mynd i Iwerddon i gael sicrwydd yswiriant iechyd, mae croeso i chi wneud hynny, oherwydd mae'r ddarpariaeth iechyd yno yn llawer iawn gwaeth na'r hyn sydd gennym ni yma. Mae'n rhaid talu am bethau yn Iwerddon sydd i'w cael am ddim yma. Y gwir amdani, er enghraifft, yw os ydych chi eisiau cael babi yn Iwerddon, rydych chi'n talu. Dyna beth sy'n digwydd yno. Y gwir amdani yw bod y cyfraddau treth yn uwch, mae cost byw yn uwch. Gan adnabod Iwerddon fel yr wyf i, gwn fod hynny'n wir.
Ac nid yw'n mynd i'r afael â'r pwynt sylfaenol hwn. Mae'n onest pan ddywed, 'Rwyf i o blaid annibyniaeth', oherwydd dyna'r hyn y mae ei blaid yn sefyll drosto. Nid wyf i'n ei feirniadu am hynny. Nid wyf i'n cytuno ag ef, ond dyna ei safbwynt. Ond yr hyn y mae'n rhaid i ni roi sylw iddo, does bosib, yw'r bwlch sydd gennym ni rhwng gwariant a chodi refeniw yng Nghymru. Ceir bwlch o 25 y cant. Mae'n rhaid rhoi sylw i hynny o ran, pe byddem ni'n cael annibyniaeth yfory, sut byddai hynny'n cael sylw. Ble fyddai'r toriadau yn cael eu gwneud? Ble fyddai ef yn gwneud y toriadau hynny? Oherwydd ni fyddai twf dros nos. Os yw eisiau dadlau'r achos dros annibyniaeth, mae'n rhaid iddo esbonio i bobl Cymru lle y byddai'r toriadau hynny yn digwydd. Ni ellir dadlau bod y refeniw yr ydym yn ei godi yn llai na'r hyn yr ydym ni'n ei wario. Ni ellir dadlau hynny, oni bai ei fod yn dadlau nad yw hynny'n wir. Os yw hynny'n wir, os byddwn yn cael annibyniaeth, ceir bwlch yn hynny o beth, sut bydd y bwlch hwnnw'n cael ei lenwi?
Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a allwch chi egluro i bobl Cymru pam bod y contract newydd ar gyfer darparu gwasanaethau band eang yn dal i fod heb ei gyflwyno?
Wel, mae hwnnw'n fater yr ydym ni'n ei godi gyda BT. Nhw yw'r unig ddarparwr, wrth gwrs—nid oes cystadleuaeth yn y farchnad hon. Ac rydym ni'n sicrhau y bydd BT yn cyflwyno'r contract hwnnw ac yn darparu'r gwasanaethau yr ydym ni wedi talu amdanynt.
Wel, mae methu â chyflwyno'r contract newydd hwn yn enghraifft arall o fethiant eich Llywodraeth. Dyma'r diweddaraf mewn rhestr faith o addewidion a dorrwyd. A gadewch i mi atgoffa'r Prif Weinidog bod maniffesto Plaid Lafur Cymru ar gyfer etholiad 2011 wedi ymrwymo i sicrhau, a dyfynnaf, y bydd gan bob eiddo preswyl a phob busnes yng Nghymru fynediad at Fand Eang Cenhedlaeth Nesaf erbyn 2015.
Wel, mae hwnnw'n amlwg yn addewid arall a dorrwyd gan eich Llywodraeth. Ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau o bob ochr i'r Siambr yn gallu rhoi enghreifftiau i chi o gymunedau sy'n cael anawsterau gyda gwasanaeth band eang nad yw'n ddigon da. Mae cymunedau fel Mynachalog-ddu yn sir Benfro, Moelfre yng Nghonwy a Chastellnewydd yn sir Fynwy ymhlith dim ond rhai sydd yng nghefn y ciw band eang, sy'n gwneud y cymunedau hynny'n llawer mwy ynysig a difreintiedig o'u cymharu â rhannau eraill o Gymru. Prif Weinidog, sut aeth popeth o'i le?
Wel, yn gyntaf oll, mae gennym ni 96 y cant o eiddo sydd wedi eu cysylltu â band eang cyflym iawn. Lle mae addewidion y Torïaid ar y mater hwn? Pe byddai'r Torïaid mewn grym, ni fydden nhw wedi gwneud dim byd o gwbl. Nid oedd unrhyw gynnig band eang gan y Torïaid, dim byd o gwbl.
Ble mae Llywodraeth y DU? Cofiwch ein bod ni wedi cadw ein haddewid o ran mater nad yw hyd yn oed wedi ei ddatganoli. Nid yw hyd yn oed wedi ei ddatganoli. Unwaith eto, mae gennym ni'r Llywodraeth Dorïaidd yn Llundain yn dweud bod yn rhaid i Gymru dalu am rywbeth, mewn gwirionedd, y dylai hi dalu amdano. A dweud y gwir, mae hwn yn seilwaith a ddylai fod o fudd i'r DU gyfan, ond nid dyna sut y mae'r Llywodraeth Geidwadol yn ei gweld hi, oherwydd bod ganddyn nhw gymaint o obsesiwn gyda'r farchnad. Iddyn nhw, mae'n rhaid i'r farchnad benderfynu popeth. Pe byddem ni'n gadael i hynny ddigwydd yng Nghymru, ni fyddai gan y rhan fwyaf o Gymru fand eang cyflym iawn. Rydym ni wedi ymyrryd fel Llywodraeth, rydym ni wedi buddsoddi, a dyna pam yr ydych chi'n ei godi, oherwydd y cywilydd bod ei blaid ei hun wedi gwneud cyn lleied.
Rydych chi wedi mynd yn groes i'ch maniffesto ar gyfer etholiad y Cynulliad—mae hynny'n gwbl eglur o'r hyn yr wyf i newydd ei ddyfynnu i chi. Ac nid yn unig y gwnaeth maniffesto eich plaid ymrwymo i sicrhau y byddai gan bob eiddo preswyl a phob busnes yng Nghymru fynediad at fand eang cenhedlaeth nesaf erbyn 2015, ond aeth ymlaen i addo y dylai fod gan 50 y cant o eiddo neu fwy fynediad at 100 Mbps. Nawr, rydym ni'n gwybod y bydd y Llywodraeth yn gwneud datganiad ar y contract newydd, ond fel yr ydym ni wedi dod i'w ddisgwyl gan gynifer o gynlluniau Llywodraeth Cymru, mae gweithrediad hyn wedi llithro a llithro a llithro.
Dylai'r contract hwn fod wedi bod ar waith ar ddechrau'r flwyddyn hon, a thra ein bod ni'n dal i aros, mae'n rhaid i blant ysgol fel Grug Williams gael eu gyrru filltir i ffwrdd o'u cartrefi ger Gwytherin yng Nghonwy i ddod o hyd i signal i lawrlwytho gwaith ysgol. Gadewch i mi atgoffa'r Prif Weinidog hefyd bod arolwg band eang a symudol blynyddol yr NFU wedi dangos hefyd bod dwy ran o dair o aelodau'r NFU a holwyd yng Nghymru wedi dweud nad oeddent yn gallu cael gafael ar fand eang digon cyflym, sy'n cael effaith sylweddol ar eu gallu i gyflawni busnes yn effeithiol ac yn effeithlon. Felly, gyda hynny mewn golwg, Prif Weinidog, ac yng ngoleuni'r effaith ddifrifol iawn y mae diffyg darpariaeth band eang briodol yn ei chael ar gymunedau Cymru, a wnewch chi ymddiheuro nawr am fethu â bodloni eich ymrwymiad maniffesto ar gyfer etholiad Cynulliad 2011? A wnewch chi hefyd ymddiheuro i'r bobl hynny sy'n byw heb wasanaeth band eang addas yng Nghymru am fethiant eich Llywodraeth i ymdrin â'r mater hwn yn briodol?
Yn gyntaf oll, yn sicr nid yw technoleg symudol wedi ei ddatganoli. Mae hynny'n rhywbeth y dylai Llywodraeth y DU sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno ar draws Cymru gyfan—[Torri ar draws.] Gadewch i mi esbonio, felly. Mae gwahaniaeth rhwng technoleg symudol a band eang. Dywedodd symudol a band eang. Nid yw symudol wedi'i ddatganoli. Mater i Lywodraeth y DU yw technoleg a signal ffonau symudol. Y rheswm pam mae gennym ni ddarpariaeth gymharol wael yn y DU yw'r model a fabwysiadwyd ar gyfer signal symudol yn y lle cyntaf. Roedd gormod o arian yn cael ei dalu i Lywodraeth y DU ac nid oedd digon o arian ar gael wedyn i fuddsoddi yn y seilwaith.
Pan ddaw i fand eang, mae'n eistedd yn y fan yna fel rhywun o blaid nad oes ganddi bolisi ar hyn. Nid wyf i wedi gweld dim polisi o gwbl. Rydym ni wedi sicrhau ar gyfer pobl Cymru mewn llawer iawn o gymunedau ar hyd a lled Cymru gwasanaeth band eang na fydden nhw byth bythoedd wedi ei gael fel arall. Rwy'n siarad â busnesau ledled Cymru sy'n gallu cael mynediad ato. Cyfeiriodd at faniffesto 2011. Cyfeiriodd at y mater o fand eang i ysgolion. Mae un addewid y gwn fod pobl Cymru yn falch iawn na chafodd y Ceidwadwyr erioed y cyfle i'w weithredu o'u maniffesto nhw yn 2011, sef y toriad o 20 y cant i gyllid addysg y maen nhw'n anghofio amdano yn barhaus.