Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 9 Hydref 2018.
Wel, rwy'n credu bod pobl yn deall ac yn gallu gwneud dewis. Beth ddylem ni ei gael nesaf felly? A ddylem ni fynnu bod bwyd yn cael ei labelu fel bwyd cosher er mwyn i bobl nad ydynt yn Iddewon osgoi bwyta'r bwyd hwnnw? A ddylem ni labelu bwyd, er enghraifft, fel ei fod yn dderbyniol i'r rhai sy'n Hindwiaid, i'r rhai sy'n Fwdhyddion? Wel, oes, mae angen i ni labelu bwyd mor gywir â phosibl, ond yn sicr nid wyf i o'r farn y dylai bwyd halal, rywsut, gael ei dargedu'n benodol o'i gymharu ag arferion deietegol eraill a chrefyddau eraill. Os ydych chi'n mynd i awgrymu hynny am Fwslimiaid, a ydych chi'n mynd i awgrymu'r un peth am Iddewon?