Lles Anifeiliaid yng Ngogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 9 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 1:52, 9 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae deddf Finn yn gwneud ei ffordd trwy broses ddeddfwriaethol Senedd y DU ar hyn o bryd. Mae'r ddeddf hon yn cynnig rhoi statws arbennig i anifeiliaid gwasanaeth, fel cŵn a cheffylau'r heddlu, lle maen nhw'n cael eu niweidio ac yn cael gwared ar yr amwyster ynghylch dioddef diangen sydd ar gael i droseddwyr o dan adran 4 Deddf Lles Anifeiliaid 2006. Deallaf y bydd y newid hwn yn dod gerbron y Cynulliad i'w hystyried. Prif Weinidog, a wnaiff eich Llywodraeth gefnogi deddf Finn, os gwelwch yn dda?