1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 9 Hydref 2018.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am les anifeiliaid yng Ngogledd Cymru? OAQ52723
Mae cynllun gweithredu fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Cyflwynodd datganiad llafar Ysgrifennydd y Cabinet ym mis Mehefin gynlluniau i gynnal a gwella lles anifeiliaid anwes yng Nghymru a bydd yn gwneud datganiad llafar ar les anifeiliaid a ffermir y mis nesaf.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae deddf Finn yn gwneud ei ffordd trwy broses ddeddfwriaethol Senedd y DU ar hyn o bryd. Mae'r ddeddf hon yn cynnig rhoi statws arbennig i anifeiliaid gwasanaeth, fel cŵn a cheffylau'r heddlu, lle maen nhw'n cael eu niweidio ac yn cael gwared ar yr amwyster ynghylch dioddef diangen sydd ar gael i droseddwyr o dan adran 4 Deddf Lles Anifeiliaid 2006. Deallaf y bydd y newid hwn yn dod gerbron y Cynulliad i'w hystyried. Prif Weinidog, a wnaiff eich Llywodraeth gefnogi deddf Finn, os gwelwch yn dda?
Mae'r rhain yn faterion y gwn fod y Gweinidog yn eu hystyried a'i nod fydd rhoi ystyriaeth ffafriol o ran gweithredu'r gyfraith honno. Mae'r rhain yn faterion y bydd y Gweinidog yn ymdrin â nhw maes o law.
Rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i longyfarch enillwyr gwobrau ôl troed lles anifeiliaid cymunedol RSPCA Cymru yn y gogledd—cyngor Conwy, cyngor sir Ddinbych, cyngor Wrecsam, cyngor Ynys Môn, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Cartrefi Cymunedol Gwynedd—a hefyd i gydnabod y ffaith fod y ddarpariaeth o les anifeiliaid trwy awdurdodau lleol yn ofyniad pwysig gan yr awdurdodau lleol hynny. Sut, felly, ydych chi'n teimlo y dylem ni ymateb i bryderon a godwyd gyda mi yr haf hwn, pan euthum allan gydag arolygydd RSPCA yn sir Ddinbych, am y fflyd o anafiadau i anifeiliaid yn yr ardal a achoswyd gan reifflau aer a chroesfwâu yn ddiweddar?
Mae hynny'n peri gofid mawr. Yn gyntaf oll, ymunaf ag ef wrth gwrs i longyfarch yr awdurdodau lleol dan sylw. Pan fo anifeiliaid wedi eu hanafu gydag arfau, ni ddylai pobl fod ag unrhyw amheuon ynghylch hysbysu'r heddlu am y mater. Gwn ei bod hi'n llawer anoddach dod o hyd i'r troseddwyr ar ôl y digwyddiad, ond lle y ceir patrwm o ymddygiad mewn ardal benodol, bydd y bobl hynny yn gwneud camgymeriad rywbryd ac yn aml iawn maen nhw'n cael eu dal. Mae'n peri gofid mawr, wrth gwrs, i'r rhai sy'n berchen ar anifeiliaid anwes a byddwn yn eu hannog, hyd yn oed os ydynt yn credu na fydd dim yn digwydd, byddwn yn eu hannog i gofrestru'r mater gyda'r heddlu a'i adrodd fel trosedd.
Prif Weinidog, gwelaf fod y Llywodraeth yn Lloegr yn cyflwyno gwaharddiad ar werthu cŵn bach trydydd parti. Hoffwn gael gwybod gennych chi, rydych chi'n dweud nawr eich bod chi'n mynd i'w, am ba hyd yr ydych chi'n mynd i barhau i geisio rheoleiddio'r dioddefaint yn hytrach na'i wahardd yn llwyr.
Mae'r Gweinidog yn bwriadu gwneud cyhoeddiad ar hynny cyn diwedd y tymor.