Trafnidiaeth Addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 9 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:56, 9 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Nid yw'n eglur sut y byddai hynny'n gweithio, a rhai o'r pethau yr wyf i wedi eu gweld fyddai cyflwyno lonydd bysiau ar y draffordd. Wrth gwrs, byddai angen bysiau a fyddai'n rhedeg ar y lonydd, ac mewn rhai rhannau ohoni, ffordd ddeuol; ni allwch chi gael traffordd un lôn, yn amlwg. Roedd atal pobl rhag mynd ar y draffordd yn un awgrym a wnaed; symud cludiant nwyddau i'r rheilffordd, yr ydym, wrth gwrs, eisiau ei gefnogi, ond mae'n haws dweud na gwneud, yn enwedig traffig nwyddau oherwydd prin iawn yw'r iardiau nwyddau erbyn hyn.

Rwy'n derbyn, wrth gwrs, yn llwyr yr hyn y mae'n ei ddweud am dagfeydd. Bydd pethau'n gwaethygu—nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Pan fydd tollau Hafren yn mynd, bydd effaith ar y twneli, ac rwy'n credu ein bod ni'n twyllo ein hunain os ydym ni'n credu y bydd y sefyllfa'n gwella yn y dyfodol agos. Felly, mae'n rhaid cael ateb. O'm safbwynt i, y penderfyniad y bydd gofyn i mi ei wneud yw, 'A ddylid mabwysiadu'r llwybr du ai peidio?' ac mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, y mae gen i feddwl agored yn ei gylch oherwydd nad wyf wedi gweld adroddiad sylweddol yr arolygydd cynllunio ar y mater hwn eto.