1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 9 Hydref 2018.
4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, 'Trafnidiaeth addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol'? OAQ52748
Mae safbwynt Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ar fanteision buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, yn ogystal â seilwaith cerdded a beicio, yn cael ei adleisio gan y Llywodraeth, wrth gwrs, ac ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet i'r comisiynydd ar 28 Medi.
Diolch, Prif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol, rwy'n gobeithio, mai'r hyn y mae adroddiad comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi ei amlygu yw y byddai ffordd liniaru'r M4 yn cynyddu mewn gwirionedd y niferoedd sy'n defnyddio'r M4 gan 42,000 o gerbydau y dydd, gan gynyddu allyriadau gan 500,000 tunnell. O ystyried maint y tagfeydd a'r broblem lygredd y mae fy etholwyr yn eu dioddef, rwy'n bryderus iawn y byddai'r ffordd liniaru hon yn cynyddu nifer y bobl sy'n cymudo i Gaerdydd, ac i Gasnewydd, yn wir, mewn car. Caf fy nharo gan y ddadl gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, y byddai swm llawer llai o lai na £600 miliwn ar drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn datrys y broblem tagfeydd am ffracsiwn o'r pris. Roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi roi eich safbwyntiau i ni ar y ddadl honno.
Nid yw'n eglur sut y byddai hynny'n gweithio, a rhai o'r pethau yr wyf i wedi eu gweld fyddai cyflwyno lonydd bysiau ar y draffordd. Wrth gwrs, byddai angen bysiau a fyddai'n rhedeg ar y lonydd, ac mewn rhai rhannau ohoni, ffordd ddeuol; ni allwch chi gael traffordd un lôn, yn amlwg. Roedd atal pobl rhag mynd ar y draffordd yn un awgrym a wnaed; symud cludiant nwyddau i'r rheilffordd, yr ydym, wrth gwrs, eisiau ei gefnogi, ond mae'n haws dweud na gwneud, yn enwedig traffig nwyddau oherwydd prin iawn yw'r iardiau nwyddau erbyn hyn.
Rwy'n derbyn, wrth gwrs, yn llwyr yr hyn y mae'n ei ddweud am dagfeydd. Bydd pethau'n gwaethygu—nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Pan fydd tollau Hafren yn mynd, bydd effaith ar y twneli, ac rwy'n credu ein bod ni'n twyllo ein hunain os ydym ni'n credu y bydd y sefyllfa'n gwella yn y dyfodol agos. Felly, mae'n rhaid cael ateb. O'm safbwynt i, y penderfyniad y bydd gofyn i mi ei wneud yw, 'A ddylid mabwysiadu'r llwybr du ai peidio?' ac mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, y mae gen i feddwl agored yn ei gylch oherwydd nad wyf wedi gweld adroddiad sylweddol yr arolygydd cynllunio ar y mater hwn eto.
Dywedodd y comisiynydd hefyd
'Mae’r Llwybr Du yn wan o ran y meini prawf a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol'.
Credaf fod hon yn adeg allweddol. Rwy'n gwbl niwtral o ran beth ddylai'r penderfyniad fod; rwy'n credu bod dadleuon ar y ddwy ochr. Ond mae'n amlwg yn mynd i fod yn adeg allweddol ar gyfer cymhwyso'r Ddeddf hon ar gyfer prosiectau a pholisïau hirdymor, ac rwy'n gobeithio y bydd gan y Llywodraeth ryw fath o ddull o ymateb yn fanwl os bydd yn rhaid iddi ganfod y gallai fod, o ran y meini prawf a nodir, yn benderfyniad nad yw'n cyd-fynd â hi yn llwyr. Byddai hynny'n cymryd y Ddeddf o ddifrif o leiaf, neu ai eich safbwynt yw bod y comisiynydd yn anghywir wrth wneud yr asesiad y mae hi wedi ei wneud ar hyn?
Mae'n drueni na chyflwynodd y comisiynydd dystiolaeth i'r ymchwiliad oherwydd, wrth gwrs, gallai'r dystiolaeth hon fod wedi cael ei phrofi wedyn a byddai wedi gallu esbonio'r sail y rhoddwyd y dystiolaeth honno arni. Fe'i lluniwyd ar ôl i'r ymchwiliad orffen, nad yw'r ffordd fwyaf defnyddiol o wneud hyn efallai, ond, serch hynny, byddwn yn cymryd i ystyriaeth, wrth gwrs, yr hyn y mae'r comisiynydd wedi ei ddweud, a'r holl ffactorau perthnasol ynghylch y penderfyniad. Nid yw'r penderfyniad ei hun yn benderfyniad hawdd, ond mae'n rhaid ei wneud un ffordd neu'r llall. Y sicrwydd yr wyf i'n ei roi i'r Aelodau yw y byddaf yn cymryd yr holl ffactorau perthnasol i ystyriaeth cyn dod i gasgliad.