Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 9 Hydref 2018.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, roeddwn i gyda Phrif Weinidog yr Alban ddoe. Mae unrhyw un sy'n ymweld â'r Alban a Llywodraeth yr Alban y dyddiau hyn yn dod oddi yno gyda synnwyr o wlad sy'n hyderus, Llywodraeth sy'n effeithiol ac arweinydd sy'n cael ei pharchu yn yr Alban a thu hwnt. Ddoe, pan wnaeth Prif Weinidog yr Alban alw am i unrhyw fesur Brexit wrth gefn a fyddai'n rhoi statws marchnad sengl arbennig i Ogledd Iwerddon gael ei ymestyn i'r Alban hefyd, fe'i adroddwyd fel newyddion mawr gan gyfryngau'r DU gyfan. A ydych chi fel Prif Weinidog Cymru yn adleisio'r alwad honno ar gyfer Cymru, a phan fyddwch chi'n trafod y materion hyn, pam mae hi'n ymddangos nad oes neb yn cymryd unrhyw sylw?