Lles Anifeiliaid yng Ngogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 9 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:53, 9 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Mae hynny'n peri gofid mawr. Yn gyntaf oll, ymunaf ag ef wrth gwrs i longyfarch yr awdurdodau lleol dan sylw. Pan fo anifeiliaid wedi eu hanafu gydag arfau, ni ddylai pobl fod ag unrhyw amheuon ynghylch hysbysu'r heddlu am y mater. Gwn ei bod hi'n llawer anoddach dod o hyd i'r troseddwyr ar ôl y digwyddiad, ond lle y ceir patrwm o ymddygiad mewn ardal benodol, bydd y bobl hynny yn gwneud camgymeriad rywbryd ac yn aml iawn maen nhw'n cael eu dal. Mae'n peri gofid mawr, wrth gwrs, i'r rhai sy'n berchen ar anifeiliaid anwes a byddwn yn eu hannog, hyd yn oed os ydynt yn credu na fydd dim yn digwydd, byddwn yn eu hannog i gofrestru'r mater gyda'r heddlu a'i adrodd fel trosedd.