Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 9 Hydref 2018.
Nid dyma'r tro cyntaf yr wyf i wedi codi'r pwnc hwn gyda chi, ond ar ôl y rhaglen Panorama ddiweddar ar y ddarpariaeth iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc, cefais fy moddi mewn negeseuon gan rieni yn y Rhondda sy'n teimlo bod eu plant a'u pobl ifanc yn eu harddegau wedi cael eu siomi gan y system. Tarodd y rhaglen ar wendid yn sicr, Prif Weinidog.
Un peth a allai helpu yw i wasanaethau cwnsela mewn ysgolion gael eu gwella. Mae'n ofyniad statudol erbyn hyn i ysgolion uwchradd yng Nghymru fod â chwnselydd mewnol, ond mae'r ddarpariaeth yn dal i fod yn anghyson, yn ôl Cymdeithas y Plant. Maen nhw'n dweud bod rhai ysgolion yn darparu gwasanaeth rhagorol ond nad yw rhai ysgolion yn darparu unrhyw wasanaethau cwnsela o gwbl. Mae hwn yn faes sydd o dan eich rheolaeth chi, Prif Weinidog. Mae llawer o blant a phobl ifanc yn eu harddegau yn cael eu siomi gan y gwasanaeth iechyd yn bennaf, ond hefyd mae'n nhw'n cael eu siomi o fewn y system addysg hefyd. Felly, a wnewch chi ymrwymo i werthuso'r gwasanaeth i wneud yn siŵr y ceir gwasanaeth o ansawdd uchel a'i fod yn dda ac yn cael ei ddarparu'n gyson ar gyfer pob disgybl ysgol uwchradd ar draws y wlad i gyd?