1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 9 Hydref 2018.
8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc? OAQ52747
Rydym ni'n gweithio gyda'n partneriaid i gyflawni gwelliant system gyfan i'r cymorth iechyd meddwl a ddarperir i bobl ifanc, gan adeiladu ar ein gwaith a'n buddsoddiad llwyddiannus ers 2015, a chyflawni, wrth gwrs, ein hymrwymiadau yn 'Ffyniant i Bawb'.
Nid dyma'r tro cyntaf yr wyf i wedi codi'r pwnc hwn gyda chi, ond ar ôl y rhaglen Panorama ddiweddar ar y ddarpariaeth iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc, cefais fy moddi mewn negeseuon gan rieni yn y Rhondda sy'n teimlo bod eu plant a'u pobl ifanc yn eu harddegau wedi cael eu siomi gan y system. Tarodd y rhaglen ar wendid yn sicr, Prif Weinidog.
Un peth a allai helpu yw i wasanaethau cwnsela mewn ysgolion gael eu gwella. Mae'n ofyniad statudol erbyn hyn i ysgolion uwchradd yng Nghymru fod â chwnselydd mewnol, ond mae'r ddarpariaeth yn dal i fod yn anghyson, yn ôl Cymdeithas y Plant. Maen nhw'n dweud bod rhai ysgolion yn darparu gwasanaeth rhagorol ond nad yw rhai ysgolion yn darparu unrhyw wasanaethau cwnsela o gwbl. Mae hwn yn faes sydd o dan eich rheolaeth chi, Prif Weinidog. Mae llawer o blant a phobl ifanc yn eu harddegau yn cael eu siomi gan y gwasanaeth iechyd yn bennaf, ond hefyd mae'n nhw'n cael eu siomi o fewn y system addysg hefyd. Felly, a wnewch chi ymrwymo i werthuso'r gwasanaeth i wneud yn siŵr y ceir gwasanaeth o ansawdd uchel a'i fod yn dda ac yn cael ei ddarparu'n gyson ar gyfer pob disgybl ysgol uwchradd ar draws y wlad i gyd?
Byddai yn hynod siomedig pe na byddai ysgolion uwchradd yn darparu'r gwasanaeth y maen nhw i fod i'w ddarparu. Rwy'n credu bod—. Rwyf i wedi dweud yn y Siambr o'r blaen faint o arian yr ydym ni'n ei gyfrannu at y gwasanaeth iechyd meddwl plant a'r glasoed, ond rwy'n credu mai lle mae'n rhaid i'r pwyslais fynd nawr, a'r hyn yr ydym ni'n ei ystyried, yw'r hyn sy'n digwydd yn y bwlch hwnnw rhwng y gwasanaethau cwnsela a CAMHS. Mae llawer o bobl ifanc nad ydynt yn fodlon mynd i weld cwnselydd yn yr ysgol gan ei fod ychydig bach yn rhy agos gartref ac mae pobl yn credu y bydd pobl yn dod i wybod amdano, ac nid oes angen y math o ymyrraeth feddygol y mae CAMHS yn ei darparu ar lawer o bobl ifanc mewn gwirionedd. Felly, bydd y pwyslais nawr ar: sut yr ydym ni'n darparu lefel o wasanaethau cwnsela y tu allan i'r ysgol ar gyfer y rhai a fyddai'n elwa ar gwasanaeth hwnnw heb orfod mynd i CAMHS? Felly, cyn belled ag y mae cynigion cyllideb ddrafft 2019-20 yn y cwestiwn, maen nhw yn cyfeirio at fuddsoddiad arfaethedig mewn CAMHS, ond bydd hwnnw'n cael ei dargedu at ddiwallu anghenion y rhai nad ydyn nhw angen y driniaeth fwyaf arbenigol ac i ddiwallu anghenion y rhai sy'n cael eu colli yn y canol. Rwy'n credu mai dyna ble mae'n rhaid i ni sicrhau nad oes bwlch yn bodoli.
Prif Weinidog, mae hi'n ddiwrnod iechyd meddwl y byd ar 10 Hydref, ac rwy'n siŵr yr hoffech chi ymuno â mi i gynnig ein cefnogaeth lawn a'n diolch i'r darparwyr gwasanaethau ac elusennau iechyd meddwl niferus sy'n helpu ein pobl agored i niwed ledled Cymru bob dydd. Fodd bynnag, mae cyfraddau hunanladdiad yng Nghymru, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, yn fater difrifol iawn. Mae Childline Cymru yn adrodd cynnydd o 20 y cant i nifer y galwadau y mae'n eu derbyn gan blant a phobl ifanc sy'n dioddef â meddyliau a theimladau o hunanladdiad. Yn fwy pryderus, yn ddiweddar, mae plant mor ifanc â 10 oed yn cysylltu â'r gwasanaethau hyn bellach. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau lefelau hunanladdiad ymhlith plant a phobl ifanc a pha wasanaethau y mae'n eu darparu i elusennau fel Childline Cymru i ymdrin â'r cynnydd i nifer yr achosion?
Rwy'n cofio rai blynyddoedd yn ôl y bu nifer o hunanladdiadau ym Mhen-y-bont ar Ogwr—rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn ei gofio—wedi ei waethygu, mae'n rhaid i mi ddweud, gan sylw'r cyfryngau ar y pryd, a wnaeth, nid oes unrhyw amheuaeth yn fy meddwl i, arwain at rai o bobl ifanc yn lladd eu hunain. Roedd hwnnw'n gyfnod anodd iawn i bobl Pen-y-bont ar Ogwr, ac nid dim ond y dref ond y sir gyfan. Felly, rwyf i wedi gweld beth all ddigwydd pan fydd dychryn o ran hunanladdiad. Bu'n rhaid i mi ymdrin â hynny fy hun yn fy etholaeth i.
O ran Childline Cymru, yr hyn nad yw'n eglur, ac na all fyth fod yn eglur gyda'r pethau hyn, yw: a yw hynny'n golygu bod mwy o bobl ifanc sy'n teimlo fel eu bod eisiau lladd eu hunain neu a yw'n golygu bod mwy o bobl ifanc sy'n hysbysu am y broblem er efallai fod y niferoedd yn sefydlog? Ni allwn wybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw, ond mae'r naill ateb a'r llall yn bosibl. Gofynnodd yn benodol beth yr ydym ni'n ei wneud dros bobl ifanc. Wel, unwaith eto, mae gennym ni gwnsela mewn ysgolion, mae gennym ni'r arian yr ydym ni'n ei roi i CAMHS, ac mae'n iawn i ddweud bod y rhestr aros ar gyfer CAMHS yn annerbyniol o hir ar un adeg. Roedd yn 112 diwrnod ar un adeg, ac mae'n 28 diwrnod yn dilyn atgyfeirio erbyn hyn. Felly, mae perfformiad wedi gwella'n sylweddol ers 2017, ond, wrth gwrs, mae angen gwneud mwy o waith nawr, fel y dywedais yn gynharach, i lenwi'r bwlch rhwng y gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion a'r cymorth meddygol arbenigol, neu'r cymorth seiciatrig, y gall CAMHS ei ddarparu. Beth, felly, allwn ni ei wneud i'r rhai sy'n disgyn i'r bwlch ar hyn o bryd?
Diolch i'r Prif Weinidog.