Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 9 Hydref 2018.
Rwy'n cofio rai blynyddoedd yn ôl y bu nifer o hunanladdiadau ym Mhen-y-bont ar Ogwr—rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn ei gofio—wedi ei waethygu, mae'n rhaid i mi ddweud, gan sylw'r cyfryngau ar y pryd, a wnaeth, nid oes unrhyw amheuaeth yn fy meddwl i, arwain at rai o bobl ifanc yn lladd eu hunain. Roedd hwnnw'n gyfnod anodd iawn i bobl Pen-y-bont ar Ogwr, ac nid dim ond y dref ond y sir gyfan. Felly, rwyf i wedi gweld beth all ddigwydd pan fydd dychryn o ran hunanladdiad. Bu'n rhaid i mi ymdrin â hynny fy hun yn fy etholaeth i.
O ran Childline Cymru, yr hyn nad yw'n eglur, ac na all fyth fod yn eglur gyda'r pethau hyn, yw: a yw hynny'n golygu bod mwy o bobl ifanc sy'n teimlo fel eu bod eisiau lladd eu hunain neu a yw'n golygu bod mwy o bobl ifanc sy'n hysbysu am y broblem er efallai fod y niferoedd yn sefydlog? Ni allwn wybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw, ond mae'r naill ateb a'r llall yn bosibl. Gofynnodd yn benodol beth yr ydym ni'n ei wneud dros bobl ifanc. Wel, unwaith eto, mae gennym ni gwnsela mewn ysgolion, mae gennym ni'r arian yr ydym ni'n ei roi i CAMHS, ac mae'n iawn i ddweud bod y rhestr aros ar gyfer CAMHS yn annerbyniol o hir ar un adeg. Roedd yn 112 diwrnod ar un adeg, ac mae'n 28 diwrnod yn dilyn atgyfeirio erbyn hyn. Felly, mae perfformiad wedi gwella'n sylweddol ers 2017, ond, wrth gwrs, mae angen gwneud mwy o waith nawr, fel y dywedais yn gynharach, i lenwi'r bwlch rhwng y gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion a'r cymorth meddygol arbenigol, neu'r cymorth seiciatrig, y gall CAMHS ei ddarparu. Beth, felly, allwn ni ei wneud i'r rhai sy'n disgyn i'r bwlch ar hyn o bryd?