Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 9 Hydref 2018.
Prif Weinidog, fe wnaethoch siarad yn huawdl yr wythnos diwethaf am bwysigrwydd Gogledd Iwerddon a'i phroses heddwch ar gyfer Brexit. Onid yw'r Comisiwn Ewropeaidd yn cynnig ffin o unrhyw fath ym môr Iwerddon yn gweithredu fel pryfociad i'r gymuned unoliaethol yng Ngogledd Iwerddon? Ac oni ddylai yn hytrach gymhwyso ei waith technegol ar gyfer dad-ddramateiddio'r ffin arfaethedig honno i gytuno cytundeb masnach rydd ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd?