1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 9 Hydref 2018.
7. Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o effaith ffin tollau neu ffin reoleiddiol ym Môr Iwerddon? OAQ52750
Cyflwynir ein hasesiad yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'.
Prif Weinidog, fe wnaethoch siarad yn huawdl yr wythnos diwethaf am bwysigrwydd Gogledd Iwerddon a'i phroses heddwch ar gyfer Brexit. Onid yw'r Comisiwn Ewropeaidd yn cynnig ffin o unrhyw fath ym môr Iwerddon yn gweithredu fel pryfociad i'r gymuned unoliaethol yng Ngogledd Iwerddon? Ac oni ddylai yn hytrach gymhwyso ei waith technegol ar gyfer dad-ddramateiddio'r ffin arfaethedig honno i gytuno cytundeb masnach rydd ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd?
Wel, rwy'n credu mai'r ateb yw cael cytundeb sy'n gweithio i'r ddwy ochr. Rwyf i wedi dweud hynny lawer iawn o weithiau, a bydd yr Aelod yn gwybod fy safbwynt o ran natur y cytundeb hwnnw. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn i ddweud bod yr awgrym o unrhyw fath o ffin wleidyddol amlwg rhwng ynys Iwerddon ac ynys Prydain Fawr yn wrthun i'r pleidiau unoliaethol, ac mae'n rhywbeth yr ydym ni wedi ei weld, wrth gwrs. Ceir achlysuron, wrth gwrs, pan fo llawer iawn o gydweithredu trawsffiniol. Pan ddaw i iechyd anifeiliaid, mae Iwerddon yn un uned ffytoiechydol; nid yw Gogledd Iwerddon yn y DU yn hynny o beth mewn gwirionedd, ac os ewch chi i Ogledd Iwerddon gofynnir i chi a ydych chi'n cario cynhyrchion bwyd. Mae hynny'n gwneud synnwyr o safbwynt iechyd anifeiliaid. Ond, na, nid wyf i'n credu bod hynny'n ymarferol. Byddai'n anodd iawn i Lywodraeth y DU gytuno i hynny. Ni fyddai'r pleidiau unoliaethol yn cytuno i hynny. Beth yw'r ateb, felly? Wel, fel yr wyf i wedi dweud llawer iawn o weithiau o'r blaen: aros yn yr undeb tollau; mae'r holl beth yn cael ei ddatrys wedyn.
Yn siarad ar Channel 4 News yn y dyddiau diwethaf, mi ddywedodd Dirprwy Brif Weinidog Gweriniaeth yr Iwerddon, Simon Coveney, ei bod hi’n hurt i ddadlau bod modd osgoi ffin galed os oes yna ddim cytundeb yn ei le ar adael yr Undeb Ewropeaidd. Mi ddywedodd o bod 1,077 yn rhagor o swyddogion tollau ac archwilwyr milfeddygol a diogelwch am gael eu recriwtio mewn meysydd awyr a phorthladdoedd i ddelio efo masnach o’r dwyrain i’r gorllewin. Onid ydy hi’n anochel, dan sefyllfa felly, y bydd niwed mawr yn cael ei wneud i fasnach drwy borthladd Caergybi yn fy etholaeth i? Onid ydy hynny’n dangos mor anghyfrifol ydy cefnogwyr Brexit caled y Blaid Geidwadol a pha mor anghyfrifol ydy Llafur dan arweiniad Jeremy Corbyn i beidio â bod wedi mynnu o’r dechrau fod yn rhaid, yn ddiamod, cadw aelodaeth o’r farchnad sengl a’r undeb tollau?
Yn gyntaf, wrth gwrs, nid oes neb yn dadlau y dylai fod unrhyw fath o ffin galed rhwng Gweriniaeth Iwerddon a’r Deyrnas Unedig—nid oes neb yn dweud eu bod nhw eisiau gweld hynny. Wrth gwrs, y perygl yw efallai y bydd hynny’n digwydd heb unrhyw fath o gytundeb. Yn y dyddiau cyn y farchnad sengl, roedd checks yng Nghaergybi—nid oedd pawb yn cael ei check-o, os cofia i, ond mi oedd yna checks ta beth. Nid oedd dim checks ynglŷn â phasborts o gwbl. Ond mae yna berygl, wrth gwrs: fel y dywedais i o'r blaen, os byddai'n edrych fel ei fod e'n rhwyddach i fynd drwy borthladdoedd Gogledd Iwerddon na phorthladdoedd Cymru, wel, wrth gwrs, bydd masnach yn cael ei effeithio o achos hynny, a bydd hynny'n cael effaith negatif ar fasnach porthladdoedd Cymru. So, unwaith eto, beth yw'r ateb? Yr ateb yw sefyll tu mewn i'r undeb tollau ac, wrth gwrs, cael y mynediad mwyaf i'r farchnad sengl. Nid oes rhaid sefyll yn yr Undeb Ewropeaidd er mwyn cael y rheini.