Part of the debate – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 9 Hydref 2018.
Bydd fy swyddogion yn cael diweddariadau rheolaidd ar y sefyllfa staffio. Byddan nhw'n ymweld yr wythnos hon, ac mae ganddyn nhw bresenoldeb rheolaidd, wrth symud ymlaen. Mae fy swyddogion hefyd wedi briffio Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn llawn, felly gallant benderfynu ar y camau yr hoffen nhw eu cymryd.
Sefydlwyd nifer o systemau i gefnogi diogelwch cleifion. Mae hyn yn cynnwys rota ar alwad 24/7 ar gyfer cyngor uwch fydwraig, a briffiau diogelwch wrth drosglwyddo pob sifft, i sicrhau bod pryderon posibl yn cael eu trin heb oedi. Gwnaed diwygiadau i'r system o roi gwybod am ddigwyddiadau, gan gynnwys adolygiad dyddiol o ddata, i sicrhau nad oes unrhyw gyfle ar gyfer adrodd anghyflawn. Bydd uned cyflenwi'r GIG yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i adolygu ar fyrder ei threfniadau ar gyfer cofnodi digwyddiadau ac ymchwilio, yn ogystal â rhoi trosolwg o'r digwyddiadau mamolaeth sy'n cael eu hadolygu.
Bydd yn rhaid i'r holl sefydliadau gael trefniadau cadarn yn eu lle ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau, ynghyd â threfniadau angenrheidiol o ran cynnydd. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion geisio cael sicrwydd gan yr holl fyrddau iechyd yn hyn o beth. Mae'n bwysig ein bod yn dysgu yn sgil hyn, ac yn deall beth ddigwyddodd i arwain at y sefyllfa hon. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol fy mod i, yng ngoleuni difrifoldeb y sefyllfa, wedi cyhoeddi ddydd Gwener y dylid comisiynu adolygiad allanol annibynnol gan Lywodraeth Cymru. Roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysig cymryd y camau hyn i sicrhau hyder y cyhoedd yn y broses. Mae'r prif swyddog nyrsio a'r prif swyddog meddygol mewn cysylltiad â Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd. Rwy'n gobeithio y bydd yr adolygiad yn weithredol o fewn wythnosau. Bydd hyn yn disodli'r adroddiad allanol yr oedd y bwrdd iechyd yn bwriadu ei gomisiynu, ond bydd yn adeiladu i raddau helaeth ar yr adolygiad y maen nhw wedi ei gyflawni hyd yn hyn. Bydd y cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad, ac, yn y pen draw, ei ganfyddiadau yn cael eu cyhoeddi, wrth gwrs.
Mae'n rhaid inni gofio bod y mwyafrif helaeth o fenywod, ledled Cymru, yn derbyn gofal mamolaeth rhagorol. Ers cyflwyno 'Gweledigaeth Strategol ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru' yn 2011, bu gwelliannau sylweddol ledled system GIG Cymru yn ei chyfanrwydd. I sicrhau ymdrech gyson ar gyfer gwelliant, pennwyd dangosyddion perfformiad cenedlaethol sydd yn cynnwys meysydd fel rhoi'r gorau i ysmygu, rheoli pwysau, cymorth i fenywod sydd â salwch meddwl difrifol, cyfraddau toriadau Cesaraidd, bwydo ar y fron, a lefelau staffio. Cynhelir byrddau perfformiad mamolaeth yn flynyddol, lle mesurir perfformiad yn erbyn y dangosyddion hyn, yn ogystal â rhannu arferion newydd neu arloesol. O ran gweithlu, gofynnir i'r holl fyrddau iechyd a ydyn nhw'n cydymffurfio â Birthrate Plus ar gyfer staffio bydwreigiaeth ac yn cydymffurfio â Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr o ran safonau presenoldeb obstetryddion ymgynghorol ar wardiau esgor.
Mae gan bob menyw ddewis ynghylch lleoliad genedigaeth ei phlentyn, yn ddibynnol ar ei hamgylchiadau personol a ffactorau risg, boed hynny yn y cartref, dan arweiniad gofal bydwragedd, mewn uned ar ei phen ei hun neu uned ochr yn ochr, neu ofal dan arweiniad obstetrig. Mae twf wedi bod mewn gofal dan arweiniad bydwragedd, ac erbyn hyn mae gan bob bwrdd iechyd fydwraig ymgynghorol i roi arweiniad a chefnogi bydwragedd. Mae gan bob bydwraig yng Nghymru oruchwylwraig glinigol ddynodedig sy'n fydwraig brofiadol, i'w chefnogi yn ei gwaith. Ac rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y toriadau Cesaraidd a wneir yng Nghymru o ganlyniad i ddarparu rhagor o wybodaeth a chefnogaeth i fenywod.
Mae rhwydwaith mamolaeth cenedlaethol yn darparu cyngor clinigol arbenigol. Rhan o'i waith fu mynd i'r afael â chyfradd y marw-enedigaethau yng Nghymru. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r rhaglen amlweddog hon wedi gweld: cyflwyno protocolau asesu twf cenedlaethol—protocol asesiad tyfiant a phwysau gorau posibl yn gysylltiedig â beichiogrwydd—siartiau tyfiant ffetws GROW; safonau cenedlaethol newydd ar gyfer rheoli diabetes yn ystod beichiogrwydd; cyflwyno hyfforddiant ymarferol amlbroffesiynol obstetrig—hyfforddiant amlddisgyblaethol PROMPT i wella cyfathrebu a gwneud penderfyniadau o fewn timau; adnodd newydd ar gyfer adolygu marwolaethau amenedigol a chanllawiau i staff ar geisio post mortem; yn ogystal â gwell cardiotocograffeg—hyfforddiant monitro ffetws â chardiotocograffeg; a safonau ar gyfer clustfeiniad ysbeidiol deallus. Cynhaliodd y rhwydwaith ymgyrch lwyddiannus ar gyfer beichiogrwydd mwy diogel, a oedd yn hybu negeseuon pwysig i fenywod o ran yr hyn y gallent ei wneud i ofalu am eu hunain yn ystod beichiogrwydd. Dangosodd gwerthusiad fod lefel uchel o wybodaeth ac ymwybyddiaeth ymhlith mamau beichiog o'r hyn y mae angen iddynt ei wneud, gyda chymorth eu bydwragedd.
Bu datblygiadau a buddsoddiadau sylweddol mewn gofal newyddenedigol hefyd. Cyhoeddodd y rhwydwaith newyddenedigol safonau newyddenedigol diwygiedig ym mis Medi 2017. Mae'r rhain yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf a chanllawiau arfer gorau, i'w gwneud yn berthnasol yn glinigol ac yn weithredol. A chânt eu dylanwadu gan ddatblygiadau newyddenedigol ledled y Deyrnas Unedig, gan gymryd i ystyriaeth argymhellion Cymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain, y rhaglen archwilio newyddenedigol cenedlaethol, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, Bliss, a safonau eraill a gyhoeddwyd yn Lloegr a'r Alban.
Gan adeiladu ar lwyddiant cynllun 2011, caiff gweledigaeth newydd ar gyfer gwasanaethau mamolaeth gofalus eu llunio mewn cydweithrediad â gweithwyr proffesiynol a'i llywio gan arolwg o bron 4,000 o fenywod a roddodd enedigaeth yng Nghymru. Bydd hefyd yn bwysig sicrhau bod unrhyw wybodaeth a ddaw o adolygiad Cwm Taf yn hysbysu'r cynllun i sicrhau addysg a gwelliant trwy Gymru gyfan. Byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynnydd i'r Aelodau.