Part of the debate – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 9 Hydref 2018.
Diolch ichi, Llywydd. Yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig ddydd Gwener, roeddwn i'n meddwl ei bod yn bwysig i ddiweddaru'r Aelodau ar y camau sy'n cael eu cymryd i gefnogi gwasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Mae'r adroddiadau dros yr wythnos ddiwethaf yn amlwg yn peri pryder, a bydd Aelodau yn dymuno deall sut y digwyddodd y sefyllfa hon. Fel rhiant, rwy'n gwerthfawrogi faint o bryder y mae hyn wedi ei achosi i bawb sydd wedi'u heffeithio. Rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd ddarparu cymorth i'r teuluoedd ac i fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch canfyddiadau'r adolygiad unigol ac unrhyw gamau gwella sydd eu hangen. Er na ellir bob amser atal canlyniad anffafriol, mae'n bwysig bod gofal yn cael ei adolygu er mwyn nodi unrhyw beth y gellir ei ddysgu. Yn ddealladwy, efallai y bydd gan y teuluoedd gwestiynau y mae angen atebion iddyn nhw hefyd.
Pan fydd menywod yn mynd i'r ysbyty, rydym yn briodol yn disgwyl iddyn nhw gael gofal diogel o ansawdd da. Gall adeg geni plentyn fod yn amser anodd, ond mae hefyd yn brofiad sy'n dod â llawenydd, felly mae'n rhaid i les menywod a'u babanod fod yn flaenoriaeth inni. Rwyf wedi ei gwneud yn glir, drwy fy sgyrsiau â chadeirydd y bwrdd iechyd, fy mod i'n disgwyl i bob cam posibl gael ei gymryd i sicrhau bod gwasanaethau yn darparu gofal diogel a thosturiol. Mae fy swyddogion hefyd yn monitro'r sefyllfa yn ofalus ac yn gofyn am sicrwydd o'r fath.
Rwy'n gwerthfawrogi hefyd bod hwn yn gyfnod anodd iawn i'n staff, ac mae'n rhaid eu cefnogi hwythau yn briodol hefyd. Mae'n rhaid rhoi pwyslais allweddol ar sicrhau lefelau staffio diogel ac arweinyddiaeth glinigol gref. Ar lefel yr arweinyddion, rydym yn sicrhau bod cymorth bydwreigiaeth uwch a chymorth rheoli meddygol ychwanegol ar waith i ddarparu goruchwyliaeth a chyngor. Llwyddodd y bwrdd iechyd i benodi bydwraig ymgynghorol ac mae wedi recriwtio 15 o fydwragedd ychwanegol, ac mae staff sydd newydd gymhwyso cyfwerth ag amser llawn o 4.8 yn dechrau yn eu swyddi yr wythnos hon. Mae cymorth gan fydwragedd profiadol hefyd yn cael ei ddarparu gan fyrddau iechyd cyfagos, gan gynnwys goruchwyliwr clinigol bydwragedd, ac mae camau ar y gweill i gynyddu nifer y staff meddygol, gan gynnwys penodi meddyg gradd ganol ychwanegol.
Gwn fod pryderon wedi'u mynegi bod y dosbarthiadau cynenedigol i rieni wedi eu canslo, ond rwyf wedi cael gwybod y byddan nhw'n ailddechrau o fewn wythnosau—yn gynnar y mis nesaf—wrth i lefelau staffio wella.