Part of the debate – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 9 Hydref 2018.
Rwy'n cofio trafod ar gam pwyllgor gydag Ysgrifennydd y Cabinet pan fyddai'n cyflwyno rheoliadau a'r graddau y byddai'r rhain yn troi'n gwestiynau manwl neu'n mynd yn fwy sylweddol. Nid wyf yn hollol siŵr i ba gategori y perthyn hyn, ond mae gennyf un neu ddau o gwestiynau iddo. Yn gyntaf, a yw Awdurdod Refeniw Cymru wedi bod yn datgymhwyso neu yn rhoi rhyddhad o ran treth hyd yn hyn yn yr amgylchiadau yr ydych yn ofni y mae hyn yn ymdrin â nhw?
Ac, yn ail, yn y rheoliadau hyn, rydyn ni'n disodli adran 29(1)(a), y cyfeiriad 'sy'n cynnwys deunydd cymwys yn gyfan gwbl'. Mae hynny'n newid i:
'(i) sy'n cynnwys deunydd cymwys yn gyfan gwbl neu
'(ii) sy'n cynnwys uwchbridd yn gyfan gwbl'.
A meddwl yr oeddwn i, mae gennym ni eisoes yn Atodlen 1 y rhestr o ddeunydd cymwys ac mae pridd yn rhan o hynny. Felly, beth yw'r broblem? Mae'n dweud yn 1, 'creigiau a phridd', a cheir amod: mae'n rhaid ei fod yn dod yn naturiol. Ai'r broblem yw a ddaw yn naturiol, neu a gaiff ei ystyried fel creigiau a phridd, ac felly ni chaniateir pridd oni bai bod rhai creigiau ynddo hefyd?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro hefyd a yw'n awgrymu bod uwchbridd yn rhywbeth gwahanol i bridd? Gwn fod ganddo randir ym Mhontcanna ac efallai ei fod yn fwy gwybodus am faterion pridd fel hyn nag yr wyf i, ond awgrymir bod y pridd a'r uwchbridd yn ddau gategori ar wahân—y sylwedd—yn hytrach na bod uwchbridd yn cael ei gwmpasu gan ystyr 'pridd'? Os yr olaf, a yw hwn mewn gwirionedd yn rheoliad angenrheidiol i'w gyflwyno?
Hefyd, a gaf i ond gofyn iddo yn olaf, pan mae ganddo 'sy'n cynnwys deunydd cymwys yn gyfan gwbl' neu 'sy'n cynnwys uwchbridd yn gyfan gwbl', pe byddai hynny ond yn dweud, 'sy'n cynnwys deunydd cymwys neu uwchbridd'—rwy'n deall y byddai dehongliad statudol yn caniatáu ystyr cynhwysol o hynny ac ni fyddai ots pe bai'r ddau ohonynt yn bresennol. Ond y ffordd y mae ef wedi ysgrifennu hynny, 'sy'n cynnwys deunydd cymwys yn gyfan gwbl' ar y ddau ohonyn nhw, onid yw hynny'n awgrymu na fyddai cymysgedd o ddeunydd cymwys ac uwchbridd yn cael ei ganiatáu o dan y rheoliadau newydd hyn?