– Senedd Cymru am 3:12 pm ar 9 Hydref 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhad Adfer Safle) (Diwygio) 2018. Rydw i'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i wneud y cynnig, Mark Drakeford.
Cynnig NDM6824 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhad Adfer Safle) (Diwygio) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Gorffennaf 2018.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rydw i'n falch o gyflwyno rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhad Adfer Safle) (Diwygio) 2018.
A gaf i ddechrau drwy nodi ar gofnod fy niolch i'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am eu gwaith wrth ystyried y rheoliadau hyn? Gwneir y rheoliadau o dan adran 33 y Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 ac maent yn ymwneud â'r rhyddhad sydd ar gael i weithredwyr safleoedd tirlenwi wrth ymgymryd â gweithgarwch awdurdodedig adfer safle.
Ar hyn o bryd, ni all Awdurdod Refeniw Cymru ond caniatáu rhyddhad ar gyfer gwarediadau sy'n ffurfio rhan o'r gweithgarwch adfer safle pan fyddo'r deunydd a waredir yn ddeunydd cymwys fel y caiff ei restru yn Atodlen 1 y Ddeddf. Diben y Rheoliadau hyn yw ehangu cwmpas y rhyddhad o ran gwarediadau a wneir fel rhan o weithgarwch awdurdodedig adfer safle i gynnwys gwaredu deunydd sy'n cynnwys dim ond uwchbridd. Effaith y Rheoliadau hyn yw sicrhau y bydd yr holl ddeunyddiau sydd yn angenrheidiol i adfer safle tirlenwi yn iawn yn unol â thrwydded amgylcheddol neu amod cynllunio yn cael rhyddhad rhag treth. Er mai diwygiad bychan yw hwn, bydd y rheoliadau hyn yn dileu unrhyw symbyliad i ddefnyddio dim neu ychydig iawn o uwchbridd ac yn annog rheolaeth dda o safleoedd. Bydd hyn yn helpu i sicrhau'r manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy'n gysylltiedig â gwaith adfer safle priodol, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau y prynhawn yma.
Rwy'n cofio trafod ar gam pwyllgor gydag Ysgrifennydd y Cabinet pan fyddai'n cyflwyno rheoliadau a'r graddau y byddai'r rhain yn troi'n gwestiynau manwl neu'n mynd yn fwy sylweddol. Nid wyf yn hollol siŵr i ba gategori y perthyn hyn, ond mae gennyf un neu ddau o gwestiynau iddo. Yn gyntaf, a yw Awdurdod Refeniw Cymru wedi bod yn datgymhwyso neu yn rhoi rhyddhad o ran treth hyd yn hyn yn yr amgylchiadau yr ydych yn ofni y mae hyn yn ymdrin â nhw?
Ac, yn ail, yn y rheoliadau hyn, rydyn ni'n disodli adran 29(1)(a), y cyfeiriad 'sy'n cynnwys deunydd cymwys yn gyfan gwbl'. Mae hynny'n newid i:
'(i) sy'n cynnwys deunydd cymwys yn gyfan gwbl neu
'(ii) sy'n cynnwys uwchbridd yn gyfan gwbl'.
A meddwl yr oeddwn i, mae gennym ni eisoes yn Atodlen 1 y rhestr o ddeunydd cymwys ac mae pridd yn rhan o hynny. Felly, beth yw'r broblem? Mae'n dweud yn 1, 'creigiau a phridd', a cheir amod: mae'n rhaid ei fod yn dod yn naturiol. Ai'r broblem yw a ddaw yn naturiol, neu a gaiff ei ystyried fel creigiau a phridd, ac felly ni chaniateir pridd oni bai bod rhai creigiau ynddo hefyd?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro hefyd a yw'n awgrymu bod uwchbridd yn rhywbeth gwahanol i bridd? Gwn fod ganddo randir ym Mhontcanna ac efallai ei fod yn fwy gwybodus am faterion pridd fel hyn nag yr wyf i, ond awgrymir bod y pridd a'r uwchbridd yn ddau gategori ar wahân—y sylwedd—yn hytrach na bod uwchbridd yn cael ei gwmpasu gan ystyr 'pridd'? Os yr olaf, a yw hwn mewn gwirionedd yn rheoliad angenrheidiol i'w gyflwyno?
Hefyd, a gaf i ond gofyn iddo yn olaf, pan mae ganddo 'sy'n cynnwys deunydd cymwys yn gyfan gwbl' neu 'sy'n cynnwys uwchbridd yn gyfan gwbl', pe byddai hynny ond yn dweud, 'sy'n cynnwys deunydd cymwys neu uwchbridd'—rwy'n deall y byddai dehongliad statudol yn caniatáu ystyr cynhwysol o hynny ac ni fyddai ots pe bai'r ddau ohonynt yn bresennol. Ond y ffordd y mae ef wedi ysgrifennu hynny, 'sy'n cynnwys deunydd cymwys yn gyfan gwbl' ar y ddau ohonyn nhw, onid yw hynny'n awgrymu na fyddai cymysgedd o ddeunydd cymwys ac uwchbridd yn cael ei ganiatáu o dan y rheoliadau newydd hyn?
Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
Diolch yn fawr, Llywydd. Ar bwynt olaf yr Aelod, nid dyna fy nehongliad i o'r newid yr ydym yn ei gyflwyno yma. Yn syml, mae hyn i sicrhau nad oes anghymhelliad gwrthnysig i beidio â defnyddio uwchbridd wrth adfer safle. Gallem ni, fel yr awgrymodd yr Aelod, fod wedi newid y rhestr o ddeunyddiau cymwys i gynnwys uwchbridd ac wedi arwain at newid y drefn yn y modd hwnnw. Ond byddai ychwanegu uwchbridd at y rhestr o ddeunyddiau cymwys yn golygu cymhwyso'r gyfradd dreth is ar uwchbridd ym mhob sefyllfa. Yn hytrach, yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw gwneud yn siŵr bod y rhyddhad ardrethi ar gael dim ond pan fydd uwchbridd yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd briodol i adfer safle. Pe byddech yn caniatáu cyfradd dreth is ar uwchbridd ym mhob sefyllfa, gallai hynny gymell yn afresymol i uwchbridd gael ei anfon i safleoedd tirlenwi. Wrth gwrs, mae uwchbridd yn adnodd cyfyngedig a gwerthfawr; yn sicr dyma sut y caiff ei ystyried ar randiroedd Pontcanna, ac ni ddylai felly fynd i safleoedd tirlenwi.
Credaf fod y ffordd yr ydym wedi mynd ati i gyflwyno'r gwelliant hwn yn gwahanu mewn modd synhwyrol y mathau o ddeunyddiau adfer a fyddai'n gymwys drwy fod ar y rhestr, ac uwchbridd, sy'n rhan arbennig iawn o'r gwaith adfer. Ac, yn wir, fel y dywedodd yr Aelod, gwaith Awdurdod Cyllid Cymru yn y misoedd cyntaf hyn o gael treth gwarediadau tirlenwi sydd wedi tynnu sylw at hyn fel problem. Mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod yn casglu treth ac yn caniatáu rhyddhad treth ar ddeunyddiau cymwys a ddefnyddir i adfer safleoedd. Tynnwyd eu sylw at y ffaith nad yw'r gwaith adfer hwnnw yn cael ei gwblhau yn briodol mewn nifer o achosion gan fod gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn anfodlon defnyddio uwchbridd oherwydd nad yw, ar hyn o bryd, yn gymwys ar gyfer rhyddhad tra bod deunyddiau eraill yn gymwys.
Os yw'r Aelodau yn barod i gefnogi'r rheoliadau hyn y prynhawn yma, byddan nhw'n gwneud yn siŵr y gall gweithredwyr safleoedd tirlenwi barhau i ddefnyddio uwchbridd fel rhan o waith adfer safle cymeradwy heb ysgwyddo'r atebolrwydd i dalu treth. Ac yn y ffordd honno, fel y dywedais, credwn y bydd hynny'n cymell bod manteision economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol sy'n gysylltiedig â gwaith adfer safle priodol yn cael eu cyflawni.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.