Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 9 Hydref 2018.
Ers i'r Cynulliad fod yn ddeddfwrfa lawn, rydym wedi cyflwyno 34 o Filiau sydd bellach yn Ddeddfau a 18 o Fesurau a gynigiwyd gan y Llywodraeth. Defnyddiwyd y pwerau hyn i ddatblygu fframwaith ar gyfer twf ac i sicrhau gwelliannau i bobl Cymru. Rydym wedi arwain y ffordd yn y DU gyda deddfwriaeth i gyflwyno'r system gyntaf o gydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau. Rydym yn defnyddio deddfwriaeth i ddiogelu a hybu iechyd, gan gyflwyno'r gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus yn 2007, ac yn fwyaf diweddar i sefydlu isafbris alcohol. Yn y flwyddyn sydd i ddod, byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth i sefydlu dyletswydd ansawdd ar gyfer GIG Cymru a dyletswydd gonestrwydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.
Llywydd, ein deddfwriaeth ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol oedd y gyntaf o'i bath yn y DU, a bydd yn gwella sut yr ydym ni'n ymateb i'r materion hyn ac yn mynd i'r afael â nhw. Hefyd, rydym wedi arwain o ran amddiffyn hawliau plant ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, sy'n garreg filltir yn y maes, a byddwn yn parhau i weithredu i amddiffyn plant a hawliau plant drwy gyflwyno Bil i ddileu'r amddiffyniad i gosb resymol gan wahardd y defnydd o gosb gorfforol.
Llywydd, cafodd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ei phasio, sydd wedi cael canmoliaeth yn rhyngwladol, ac sydd hefyd yn darparu'r sail inni allu buddsoddi er budd Cymru yn yr hirdymor. Wrth gwrs, nid ymdrech unigol yw hon, a hoffwn dalu teyrnged heddiw i'r gwaith caled a'r craffu gan y Cynulliad a'i bwyllgorau. Nid yw craffu bob amser yn waith cyfforddus, ond heb os, mae wedi gwneud ein deddfwriaeth yn gryfach ac yn well.
Llywydd, roedd mis Ebrill eleni yn nodi cyflwyniad y trethi cyntaf yng Nghymru ers bron i 800 mlynedd—treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi. Mae'r gallu i godi trethi yn rhoi ysgogiadau newydd inni gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru a byddwn yn ymdrechu i ddarparu dull o drethu yng Nghymru sy'n dryloyw ac yn deg ac sy'n diwallu anghenion pobl, busnesau a chymunedau Cymru. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni gwelliannau ar gyfer pobl Cymru. Mae ein heconomi wedi gwella dros y 20 mlynedd diwethaf, gyda'r gyfradd ddiweithdra ar gyfer y tri mis rhwng mis Mai a mis Gorffennaf 2018 ar 3.8 y cant o'i chymharu â 7 y cant yn 1999.
Rydym wedi gweld gwelliant hirdymor a chynaliadwy mewn cyrhaeddiad addysgol. Mae canran y disgyblion sy'n gadael yr ysgol gynradd gydag o leiaf y lefel ddisgwyliedig mewn mathemateg, gwyddoniaeth a naill ai Saesneg neu Gymraeg wedi cynyddu'n sylweddol. Mae bellach yn 90 y cant. Am y tro cyntaf mewn degawd, gostyngodd cyfran y rhai sy'n 16 i 18 oed nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn is na 10 y cant. Mae ein dull ni wedi talu ar ei ganfed.
Llywydd, rydym hefyd wedi ystyried gwasanaeth iechyd cynaliadwy mewn modd mwy integredig. Rydym yn cydnabod bod mwy i iechyd a lles na thrin salwch ac rydym yn gweithredu ar y ffaith honno. Rydym wedi cynnal lefel ein buddsoddiad mewn gofal cymdeithasol ac wedi cymryd camau i ddylanwadu ar y ffactorau ehangach sy'n effeithio ar iechyd a lles. Mae'r gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol fesul pen yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr ac mae wedi cynyddu ar gyfradd gyflymach hefyd.
Llywydd, fis Medi diwethaf, cyhoeddwyd y strategaeth genedlaethol drawsbynciol gyntaf ar gyfer Cymru, 'Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol'. Mae hon yn nodi ein rhaglen lywodraethu uchelgeisiol a'n blaenoriaethau ar gyfer pobl Cymru. Fe'i seiliwyd ar y cyfleoedd yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol i ystyried sut rydym yn cyflawni ar gyfer Cymru a sut y gallwn weithio'n well gyda phob un o'n partneriaid, gan ddefnyddio pob ysgogiad sydd ar gael inni. Mae'r strategaeth wedi gosod nod tymor hir ar gyfer Cymru sy'n ffyniannus a diogel, yn iach ac egnïol, yn uchelgeisiol ac yn dysgu, ac yn unedig a chysylltiedig. Amlinellodd y camau gweithredu y byddwn ni'n eu cymryd yn ystod tymor hwn y Cynulliad. O'r cychwyn cyntaf, nodwyd pum maes blaenoriaeth lle'r oedd modd inni wneud y cyfraniad mwyaf at ffyniant a lles hirdymor. Maen nhw'n adlewyrchu'r adegau hynny ym mywydau pobl pan allai fod angen cymorth arnyn nhw fwyaf a phan all y cymorth iawn gael effaith ddramatig ar eu bywydau. Y rhain yw: y blynyddoedd cynnar, tai, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl a chyflogadwyedd a sgiliau.
Wrth inni asesu ein cynnydd, roedd yn amlwg ein bod yn cyflawni'r camau gweithredu i helpu i leihau allyriadau. Fodd bynnag, os ydym yn dymuno cyflawni ein dyheadau, yna mae angen inni ganolbwyntio'n fwy ar hynny ar draws y Llywodraeth gyfan. Mae'r manteision o leihau allyriadau yn enfawr ac yn cyfrannu at lawer o'n blaenoriaethau, megis gwella iechyd a lles ac, wrth gwrs, agor cyfleoedd economaidd newydd. Ac felly, rydym wedi penderfynu gwneud datgarboneiddio yn chweched maes blaenoriaeth.